BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Arwydd LlanfairpwllFfeithiau difyr am Fôn
Wyddech chi hyn? Beth yw tarddiad yr enw Saesneg 'Anglesey' a pham 'Mynydd Parys'? Pa olion cynhanesyddol sydd yma a faint o blant gafodd y Marcwis o Fôn?
Môn Mam Cymru
Gerallt Gymro roddodd yr enw "Môn Mam Cymru" ar yr ynys. Mae'n ymddangos mai o'r gair Nors, ongull, sy'n golygu ffiord, y daw'r ffurf Saesneg, Anglesey. Ar rai hen arwyddion gwelir ei sillfu yn Anglesea.

Disgrifiodd y Rhufeiniwr, Tacitus, Ynys Môn fel canolfan derwyddaeth gydag 'efrydwyr' ifainc o'r Cyfandir yn dod yma i astudio'r hen gredoau. Pan ymosododd y Rhufeiniaid gyntaf ar yr ynys roedd ymateb yr ynyswyr mor ffyrnig, ni allai'r milwyr Rhufeinig wneud dim gan eu bod mewn cymaint o ofn.

Olion cyn hanes
Mae llawer o olion o'r cyfnod cyn hanes ar Ynys Môn, gan gynnwys Barclodiad y Gawres, hen feddrod sy'n dyddio'n ôl bum mil o flynyddoedd ger Aberffraw ac sy'n cynnwys lluniau wedi eu sgriffinio ar furiai'r brif siambr. Un arall yw Bryn Celli Ddu ger Plas Newydd gyda thwnel hir yn arwain i'r brif siambr.Y ddwy bont
Pont y Borth neu Bont Menai oedd coron gyrfa Thomas Telford, mab i fugail o'r Alban a ddaeth yn un o beirianwyr sifil galluocaf y byd. Cynlluniodd y bont yn 1819 ac am gyfnod maith hon oedd y bont grog hiraf yn y byd.

Agorwyd Pont Borth fis Gorffennaf 1826 ond er cymaint yr edmygedd ohoni ymhlith peirianwyr doedd hi ddim yn plesio pawb. Disgrifiodd arlunydd o'r enw Carl Gustav Carus a oedd yn ffrind i Goethe hi fel "dim amgen na symbol mathemategol mawr" ac yn "Seisnigaidd, sych a phedantig" ei chymeriad.

Gan Albanwr arall, Robert Stephenson, y codwyd yr ail bont dros y Fenai. Pont reilffordd oedd Pont Britannia neu Y Tiwb rhwng y tir mawr a Môn a adeiladwyd rhwng 1846 ac 1850. Llosgwyd hon yn 1970 ac wrth ei hailadeiladu ychwanegwyd lôn uwchben y rheilffordd gyda'r pileri a godwyd gan Stephenson yn ddigon cryf i gynnal y ddwy.

'Ceirch a Methodistiaeth'
"Ceirch a Methodistiaeth" oedd priodoleddau Ynys Môn yn ôl George Borrow pan ymwelodd â'r ynys yn 1854. Copr Mynydd Parys
Ddiwedd y ddeunawfed ganrif Mynydd Parys ger Amlwch oedd y gwaith copr mwyaf yn Ewrop ac mae olion y cloddio a fu yn dal yno heddiw. Am y deng mlynedd yn dechrau 1768 yr oedd mil a hanner yn gweithio yno gan gynnwys merched a oedd yn cael eu galw yn Copr Ladis. Byddai'r cwmni yn bathu ei arian ei hun, Ceiniogau Amlwch.

Tebyg mai llygriad o Mynydd Parry ydi Mynydd Parys ac mae cyfeiriadau at "Parry's Mountain" yn y ddeunawfed ganrif.

Y Marcwis
Collodd Ardalydd - Marcwis - cyntaf Môn ei goes ym Mrwydr Waterloo. Ef oedd yn gofalu am filwyr meirch Wellington a chofgolofn iddo ef sydd y tu allan i Lanfairpwllgwyngyll gyda grisiau i'w thop. Canodd y Bardd Cocos:
Y Marcwis of Anglesey
A'i gledd yn ei law.
Fedar o ddim newid llaw
Pan fydd hi'n bwrw glaw.
Er nad yw'n farddoniaeth fawr, mae'n gwbwl gywir.

Wedi iddo ddychwelyd i Lundain cynlluniwyd coes bren yn arbennig ar ei chyfer a'i phatentio fel Coes Sir Fôn. Yr oedd y Marcwis yn 86 pan fu farw yn dad i 18 o blant.

Llanfaripwll ...
Yn Llanfairpwllgwyngyll y sefydlwyd y gangen gyntaf erioed o Sefydliad y Merched - WI.

Llanfairpwll ac yn y blaen yw'r enw lle hiraf yn Ewrop. Mae'r pentref wedi ei efeillio â thref o'r enw Ee yn yr Iseldiroedd!

Y Fenai
Y Fenai o Borthaethwy Ar un adeg, filiynau o flynyddoedd yn ôl, dyffryn oedd Afon Menai. Ymddangosodd yr ynys gyntaf wedi Oes y Rhew ac wrth i'r rhewlifau ddadmer cododd lefel y môr â llanwyd y dyffryn â dŵr heli.

Brenhinoedd
Mae sawl cysylltiad brenhinol â Môn. Yn ardal y Berffro yr oedd llys hen dywysogion Gwynedd ac ym Mhenmynydd yr oedd cartref y Tuduriaid a rododd i Loegr y brenin Harri'r wythfed a'r frenhines Elizabeth gyntaf.

Yr oedd Owain ap Maredudd ap Tewdwr o Blas Penymydd yn un o'r rhai a ymladdodd ochr yn ochr â Harri'r pumed yn Agincourt ac am ei wrhydri fe'i penodwyd wedyn yn bennaeth y llys brenhinol.

Ar ffenestr lle mae beddrod y Tuduriaid yn Eglwys Penmynydd gwelir y geiriau: Undeb fel rhosyn yw ar lan afonydd ac fel tŷ dur ar ben y mynydd.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy