| "Ers talwm roedd Deiniolen yn lle prysur iawn. Roedd llawer o siopau yn Deiniolen ac yn y pentrefi eraill. Y rheswm dros hyn oedd fod llawer o bobl yn gweithio yn Chwarel Dinorwig.
Ond er pan gaewyd y Chwarel yn 1967 mae Deiniolen a'r pentrefi eraill wedi dirywio. Dim ond un siop sydd yn Neiniolen erbyn hyn sef Y Premier. Hefyd mae caffi and dwy dafarn yma. Un siop sy'n Clwt y Bont a dim un yn Ninorwig. Mae llawer o siopau yn y Stryd Fawr wedi cau erbyn hyn. Band Deiniolen
Dechreuwyd y Band yn 1835. Enw cyntaf y band oedd Band Llanddinorwig ond ar ol yr Ail Ryfel Byd galwyd y band yn Seindorf Arian Deiniolen a'r Cylch. Mae'r band yn cystadlu (ac ennill) led led Cymru a Phrydain. Heddiw mae yna fand ieuenctid yn ogystal â'r band llawn. Mae rhai o blant yr ysgol yn aelodau o'r band ieuenctid.
Yn ddiweddaf cafwyd arian gan y Loteri i ail adeiladu'r Cwt Band ac i brynu offerynnau newydd i'r band."
 |