  |  |  | Bandiau pres ac arian Mae gan yr ardal hon draddodiad cryf o gynhyrchu bandiau pres ac arian sydd ymysg y gorau ym Mhrydain. Felly dyma'r lle i ddarganfod pwy sy'n chwythu ei utgorn ac yn lle yn y gogledd orllewin! |  |  |
 | Seindorf Biwmares Cyfarwyddwr Cerdd: Gwyn M. Evans Manylion: Ers ei ffurfio yn 1921, mae'r aelodaeth wedi tyfu i 120 a chartref y band ydy yn: Y Ganolfan Gerdd, Stryd Newydd, Biwmares, LL58 5EG. Mae'r ymarferion yn cael eu cynnal bob nos Sul (6 - 8 pm) a nos Iau (7.30 - 9.30 pm) ar gyfer y band hynaf, ar nos Fawrth (7 - 9 pm) i fand 'B', a nos Lun (7 - 8.30 pm) i'r band canol. Mae'r dechreuwyr yn cyfarfod ar nos Lun (5.30 - 6.30 pm) Gwefan:www.beaumarisband.org.uk (Dydy'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.)Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle Arweinwyr: Sue Massey a Gareth Williams. Manylion: Cafodd y seindorf hon ei sefydlu yn 1865 o dan yr enw Band Penyrorsedd. Heddiw, mae ganddi 20 o aelodau hŷn, 15 yn y band canol a 10 yn y band iau. Mae'r band hŷn yn cyfarfod yn Ystafell y Band, Talysarn ar nos Fercher (7 - 9 pm) a nos Wener (7.30 - 9 pm) ac ar nos Fawrth (8 - 9 pm) y bydd y band canol yn ymarfer. Yn ystod y tymor, mae'r band iau yn cyfarfod ar nos Fawrth hefyd (7 - 8 pm) Gwefan:www.bandnantlle.org.uk (Dydy'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.) Seindorf Arian Deiniolen Arweinydd: Wynne Williams Manylion: Wedi ei sefydlu yn 1835, mae gan Fand Deiniolen 80 o aelodau ac maen nhw'n ymarfer yn yr Hen Felin, Clwt-y-Bont, Caernarfon. Ar nos Sul (7 - 9 pm) mae'r band uwch yn cyfarfod, ac eto ar nos Iau (7.30 - 9.30 pm). Mae'r band ieuenctid yn ymarfer ar nos Lun (7 - 8.30 pm), yr adran iau ar brynhawn Sul (3 - 4 pm) a'r dechreuwyr rhwng 4 a 5 pm . Gwefan:www.deiniolenband.org.uk(Dydy'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.)
Gwobrwyo gwasanaeth hir i'r seindorfSeindorf Arian Llanrug Lleoliad: Ffordd Glanmoleyn, Llanrug Arweinwyr: Thomas Wyss a John Maines Manylion: Cafodd Seindorf Llanrug, sydd â 100 o aelodau, ei ffurfio yn 1830, ond mae tystiolaeth o fand ffliwt yn bodoli yn y pentref ers 1774. Mae ymarferion y prif fand yn cael eu cynnal ar nos Fercher (7.30pm) a nos Sul (7pm) a'r band iau yn cyfarfod ar ddydd Sul am 5pm. Gwefan:www.llanrugband.org (Dydy'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.) Band Porthaethwy Arweinwyr (band hŷn): Chris Williams a Gavin Saynor Arweinydd (Band canol): Sue Massey Arweinydd (band iau): Gavin Saynor Manylion: Mae'r seindorf hon yn cyfarfod yn Stryd Mount, Porthaethwy nos Lun a nos Wener (7 - 9pm) i'r prif fand, nos Iau (6.30 - 8 pm) ar gyfer y band canol a nos Fawrth (6 - 7.15pm) i'r band iau. Cafodd y band ei ffurfio yn 1890 ac mae ganddo 70 o aelodau erbyn heddiw. Gwefan:www.menaibridgeband.org.uk(Dydy'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.) Seindorf Trefor Arweinydd: Geraint Jones Manylion: Wedi ei leoli ym Methlehem, Trefor, a'i sefydlu yn 1863, mae tua 30 o bobl yn y band hynaf sydd yn cyfarfod bob nos Fawrth (7.30-9.30yh) a nos Wener (7.30-9yh). Mae'r ymarferion i'r band iau yn cael eu cynnal ar nos Wener hefyd (6-7yh) ac yn denu 15 o aelodau a 5 dechreuwr.
 |  |  |  |
|
|
|