| Disgwylir 15,000 o gystadleuwyr, yn gantorion, llefarwyr, dawnswyr ac arlunwyr a thua 100,000 o ymwelwyr i'r maes a fydd yn ymestyn dros 60 acer o dir ffrwythlon amaethyddol: 17 o'r aceri yn cael eu defnyddio ar gyfer y maes, a'r gweddill ar gyfer y meysydd parcio a'r safle carafanau.
Ers cyhoeddi'r eisteddfod yn swyddogol ym mis Ebrill 2007 mae'r ardal wedi bod yn brysur yn codi arian drwy drefnu gweithgareddau a chyngherddau, gan gynnwys taith feics o amgylch y sir gan aelodau o Glwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy.
Bydd gwefan arbennig BBC Cymru yn dilyn y cystadlu a gweithgareddau'r maes drwy'r wythnos - cadwch lygad ar y dudalen hon am gysylltiadau. Yn y cyfamser, mae'r Urdd yn dal i chwilio am wirfoddolwyr i stiwardio yn ystod yr wythnos.
Mae mwy o wybodaeth a rhif ffôn ar gyfer archebu tocynnau ar wefan yr Urdd - www.urdd.org. Gallwch ddilyn holll ddigwyddiadau'r wythnos ar ein gwefan arbennig i Eisteddfod yr Urdd.Codi'r pafiliwn Dechreuodd y gwaith o godi'r prif pafiliwn ar y maes ar Ebrill 23. Daeth craen anferth, 70 tunnell, i ddadlwytho'r darnau i'w lle, ac o'i adeiladu daw'n gartref i gystadlaethau, cyngherddau a seremonïau'r Eisteddfod.
 |