BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Sir Conwy

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Stiwardio yn yr UrddStiwardio'r Urdd
Mae'r Urdd yn chwilio am wirfoddolwyr ar faes yr eisteddfod pan ddaw i Fae Penrhyn yn ystod wythnos Sulgwyn, ddiwedd mis Mai.

"Mae stiwardiaid fel rheol yn cynnig eu hamser am ddwy neu dair sesiwn yn ystod yr wythnos, sy'n golygu ein bod angen oddeutu 400 o bobl", eglura Gwyn Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Stiwardio'r Eisteddfod yn Sir Conwy.

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n hynod o ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr sy'n cynnig eu cefnogaeth cyn ac yn ystod yr ŵyl, maen nhw'n gwneud gwaith gwych! Un o'r cyfrifoldebau fydd gen i yn ystod yr wythnos, fel Cadeirydd y Pwyllgor Stiwardio, yw sicrhau bod pob un gwagle yn cael ei lenwi gan stiwardiaid, a fydd yn hwyluso'r broses o reoli digwyddiad, cynnig cymorth a chyngor i gystadleuwyr ac ymwelwyr i'r maes."

Mae croeso i ddysgwyr neu i bobl ddi-Gymraeg gynnig eu hamser, gan y bydd siaradwr Cymraeg wrth law i gynnig cefnogaeth iddynt yn y gwaith. Bydd tîm yr Urdd yn cynnig hyfforddiant i bob stiward yn dilyn y Gwasanaeth Boreol ar faes yr Eisteddfod, ddydd Sul, 25 o Fai.

Yn ôl Irfon Bennett, is-gyfarwyddwr y Celfyddydau ac Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru: "Mae llawer o'r gwirfoddolwyr yn barod iawn i stiwardio'r digwyddiadau poblogaidd, fel y cyngherddau nos, oherwydd gallant hwythau fwynhau'r arlwy wrth gynnig eu cefnogaeth i'r Eisteddfod. Tuag at ddiwedd yr wythnos, mae mwy o drafferthion, ac yn ddyddiol, mae pwysau arnom rhwng 10 y bore a 2 y prynhawn, gan fod y rhagbrofion yn dal yn eu hanterth a digwyddiadau'r pafiliwn hefyd yn cychwyn."

Dywedodd Irfon: "Byddwn i'n annog unrhyw un sydd ag amser, i gysylltu â ni. Rydych yn cael ymdeimlad da o'r cystadlaethau a'r digwyddiadau wrth stiwardio yn yr Urdd, a gobeithio yn mwynhau'r profiad, yn enwedig wrth brofi'r arlwy ar y maes ar ddiwedd eich sesiwn. Rydyn ni'n hynod ddibynnol ar wirfoddolwyr, ac mae ein diolch iddynt yn enfawr, gan eu bod yn sicrhau bod trefn a strwythur i ddigwyddiadau ar y llwyfan cenedlaethol hwn!"

Mae taflenni stiwardio ar gael o wefan yr Urdd www.urdd.org/eisteddfod, neu ar e-bost gwyn.roberts@conwy.gov.uk, neu irfon@urdd.org. Fel arall, cysylltwch ag Irfon Bennett dros y ffôn ar: 02920 635691.

  • Taith feicio'r Urdd...


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy