Glenys Williams, Pencraig Bach:
"Ar y pryd roeddwn yn gweithio, fel cymorthydd gweinyddol ar brosiect i hyrwyddo potensial addysgol amgueddfeydd a casgliadau yn Siroedd Conwy, Fflint a Dinbych. Amcan y prosiect oedd datblygu deunyddiau ar gyfer cynnal Addysg Gydol Oes ar gyfer bob math o grwpiau. Trefnwyd i gynrychiolydd o Commanet ddod i siarad am ei waith i Gymdeithasau Hanes o'r siroedd yma.
Mae Commanet yn elusen gofrestredig sydd yn hyrwyddo, datblygu a cynnal archif gymunedol i gofnodi atgofion a profiadau gan ddefnyddio technoleg gyfrifiadurol.
Er nad oedd cymdeithas hanes yn Llansannan ar y pryd, roeddwn yn gweld hyn yn gyfle gwerth chweil i gofnodi hanes a hen luniau o ardal Llansannan ar cylch.
Cymaint o newid wedi digwydd ar y ffermydd ac ar ddiwydiannau bach y fro - dim 'small holdings' mwyach a ffermydd yn unedau mawr - a diboblogi yng nghefn gwlad.
Felly mentrais ofyn i Eirlys Wynne Woodhouse i ddechrau os oedd ganddi ddiddordeb gwybod fod Eirlys wedi'i geni a'i magu yn Llansannan.
Gwyddwn hefyd iddi fod yn hynod weithgar yn y gymuned ar hyd y blynyddoedd ac efo gwybodaeth eang am hen deuluoedd yr ardal, a'i hachau.
Roedd ei diweddar ŵr Bill Wynne-Woodhouse yn hanesydd o fri ac wedi gwneud llawer o ymchwil i archifau teuluoedd.
Gofyn wedyn i Berwyn Evans oedd wedi dal y 'byg' cyfrifiadurol yn go iawn ac yntau hefyd â diddordeb mawr mewn hanes y fro.
Ychydig flynyddoedd yn ôl bu Berwyn yn gweithio ar brosiect cymunedol o'r enw Menter Hiraethog. Menter i gryfhau'r economi yn bennaf, er fod iddo ochr 'gymdeithasol' hefyd.
Fe gytunwyd ein tri i symud ymlaen i sefydlu Archif Bro Aled a'r Cylch, ar cam cyntaf oedd rhoi gwybod i Bwyllgor y Ganolfan i ddweud ein bwriad a chael eu cefnogaeth a defnyddio stafell ar un noson yr wythnos, ac wedyn gwneud cais am arian."
Berwyn Evans, Llansannan:
"Buom yn lwcus iawn i fod yn llwyddiannus i gael grant gan Arian I Bawb Cymru i brynu offer cyfrifiadurol i ddechrau ar y gwaith. Gyda'r grant cawsom gyfrifiadur, scanner, argraffydd, projector a manion eraill.
Gyda'r offer yma byddwn yn gwneud copïau o safon o'r hen luniau sydd yn eiddo i pobl y fro.
Clustnodwyd nos Lun pob wythnos yn y Ganolfan i'r ardalwyr ddod a'u lluniau neu ddogfennau, a'u gadael gyda ni am ychydig wythnosau fel cawn gyfle i wneud copïau i'w cadw ar y cyfrifiadur.
Rhan pwysig o waith y grŵp oedd paratoi ein safle ar wefan www. commanet.org (linc ar ochr dde'r dudalen hon). Bellach mae gennym oddeutu 140 o hen luniau ar y wefan honno.
Yn ychwanegol i hyn, ein bwriad nawr yw adeiladu gwefan ein hunain, fel medrwn ymhelaethu arno fel y mynnwn.
Un o nodweddion ein cais am arian oedd ein bod am geisio sefydlu Cymdeithas Hanes - ac erbyn hyn mae'r gymdeithas hon wedi ei sefydlu ac yn mynd o nerth i nerth.
Bydd y gymdeithas yn cyfarfod bob pedwerydd nos Lun yn y mis, pryd bydd siaradwr/wraig gwadd yn traddodi hanesion difyr ar amrywiol destunau hanesyddol."
Atgofion bore oes o archif y gymdeithas hanes.