 O'r chwith i'r dde: Mr Richard Roberts, Mr Thomas Evans, Mr William Wynne Jones, Mrs Margaret B Davies, Mrs Ellen Vaughan Wynne. Yn 1978 cafwyd noson hel agofion yng nghapel Henry Rees, Llansannan, yng nghwmni panel o bobl leol gyda Mr William Wynne Jones yn holi. Dyma gip ar rai o'r atgofion bore oes a gofnodwyd yn mynd nôl i droad y ganrif. Gyda diolch i Berwyn Evans a grŵp archif Bro Aled am y sain a'r lluniau. Manchester House
 Roedd dillad a hetiau yn cael eu gwneud yn hen siop Manchester House fel y cofiai Mrs Margaret Davies. Dyfodiad y tracsiwn
 Ar ddiwrnod genedigaeth Mrs Ellen Vaughan Wynne, daeth tracsiwn i'r pentref am y tro cyntaf. Tîm pêl-droed Aled Swifts
 Roedd rheolau llym i'r tîm pêl-droed, er mai dim ond 13 oed oedd y swyddogion! (Mrs M Davies) Ysbyty Meddwl Dyffryn Aled
 Atgofion Richard Roberts am blasty Dyffryn Aled pan oedd yn ysbyty meddwl. Y mul a'r capel Bedyddwyr
 Roedd Mrs Ellen Vaughan Wynne yn cysylltu adeiladu'r capel Bedyddwyr gyda marwolaeth mul! Saesneg yn yr ysgol
 Saesneg oedd iaith addysg y pentref (Thomas Evans, Ellen Vaughan Wynne a William Wynne Jones) Y Diwygiad yn Horeb
 Mr Richard Roberts yn cofio'r noson y daeth y diwygiad i Lansannan.
 |