| "Mae Tremadog yn esiampl wych o'r dref gyntaf i gael ei chynllunio yn uniongyrchol. Mae tref debyg, Lacock, yn Lloegr dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac, er na fedrwn ni wneud Tremadog mor berffaith â hynny, mae'n role model i ni gan fod Tremadog lawn mor bwysig.
"Yn y tair blynedd diwethaf mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal strategaeth drefol ar Dremadog ac wedi creu blueprint ar gyfer yr holl adeiladau - beth sydd wedi newid, beth sydd angen ei wella a'r cyfle i wneud y gwaith yma. "Ei weledigaeth o oedd creu pentref bach perffaith, felly mae'r sgwâr yn nodweddiadol - dwy dafarn yn wynebu ei gilydd, neuadd y dref a gwesty arbennig ar bob ochr a pholyn mawr yn y canol gyda cherrig o'i gwmpas. Hefyd, yr eglwys sy'n sefyll ar fryn bach tu allan i'r dref.
"Dros y ffordd, adeiladwyd y capel. Y stori yw fod pobl yn edrych i lawr ar yr Anghydffurfwyr yr adeg honno ac mi ddywedodd Maddocks 'mae gennych chi eich capel rŵan', ond bod yr Eglwys yn uwch!
"Mae Capel Peniel, sydd wedi ei greu ar sail glasurol Roegaidd, yn adeilad nodweddiadol hefyd, ac mae CADW wedi ei restru yn uwch na gradd dwy seren, sy'n bwysig iawn." Ymlaen i fwy o hanes adeiladau'r pentref
 |