| "Roeddem eisiau gwarchod Tremadog gan ei fod yn lle hanesyddol nodweddiadol iawn. Yr adeilad cyntaf i ddod i sylw Cyfeillion Cadw Tremadog oedd yr hen farcdy, sef un o'r prif adeiladu cynhyrchu gyntaf yng Nghymru. Maddocks ddaru adeiladu hwnnw i wella economi'r ardal.
"Roedd eisiau gwneud Tremadog yn un o'r llefydd y base'r coetsis yn stopio cyn Porthdinllaen, gan iddo obeithio datblygu'r porthladd yno - ond Caergybi gafodd y gwaith yn y diwedd.
"Roedd hefyd wedi adeiladu argae i fyny reit yn nhopiau Tremadog - roedd y dŵr wedyn yn llifo i lawr i dri gwahanol bwll er mwyn troi olwynion y felin.
"Er nad yw'r barcdy yn ein dwylo ni eto, rydym yn cadw llygad arno i wneud symudiad i gael yr arian a'r caniatâd i'w feddiannu yn y dyfodol.
"Mi roedd eglwys Tremadog hefyd mewn cyflwr difrifol oherwydd iddo gael ei gau flynyddoedd yn ôl. (Cafodd yr eglwys ei hadeiladu gan Maddocks yn tua 1811. Caeodd yn 1995).
"Roedd perygl i'r tŵr syrthio i lawr, ac ar ôl wyth mlynedd o gwffio, fe gawsant bres loteri a grantiau eraill i'w achub. 'Da ni wedi medru achub pethau fel y pwlpud, a'i integreiddio i mewn i'r adeilad. Mae'r ffenest fawr yn dal yna hefyd.
"I gael y pres, roedd yn rhaid i ni brofi y byddai'r adeilad yn hunan gynhaliol a dyna'r broblem fawr - ffeindio tenant a chreu planiau busnes. Ond mae'r tenantiaid i mewn erbyn hyn, a da ni'n gobeithio cael yr agoriad swyddogol pan fo'r giât yn barod. Cartrefi Cymru sydd yna, ac roeddent eisio lle mwy i helpu mamau, yn enwedig mamau â phlant sydd eisiau datblygu sgiliau ac yn y blaen.
"Pan roedd yr Eglwys yn newydd, mi roedd yn amlwg iawn dros yr ardal pan oedd y tŵr gwyn i'w weld mor glir a pherffaith. Sbïwch chi wrth i chi ddod mewn i Dremadog o Benmorfa neu Lon Cricieth - 'da chi'n gweld tŵr eglwys Tremadog uwchben popeth gan ein bod wedi cael y cyfle i'w ail-wyngalchu."Nôl i'r dudalen gyntafMae rhagor o wybodaeth ar wefan tremadog.org.uk (linc ar y dde).
 |