"Mam wnaeth wneud fy enw o'i dau enw hi - 'Mar' am Mary a 'Beth' am Elizabeth, a'i droi yn enw Cymraeg.
"Roedd fy nhad a mam yn wreiddiol o Port, ac yn cadw busnes yma - Fancy Goods and Toys. Roeddwn yn cael lot o deganau fel plentyn, sample gan y dyn gwerthu fel arfer.
"Roeddem yn byw yn Manchester House. Roedd nain wedi ei brynu pan oedd yn hogan eithaf ifanc. Roedd hi wedi bod yn gogydd freelance yn Lerpwl, yn gweithio efo Walkers Whiskey ac wedi dod yn ei blaen gymaint, nes y byddai'n llogi ei hun allan i dai cyfoethog ac mi ddaru hel digon o bres i brynu tŷ pan oedd ond yn 25 oed.
"'Doedd hi ddim am gwcio mwyach, ac mi drôdd yn dress maker. Gofynnodd gwraig y doctor iddi wneud ffrog i fynd i briodas, a rhoddodd lun yn y ffenestr fel hysbyseb. Yn y diwedd, roedd ganddi ryw ddeuddeg o ferched yn dysgu gwnïo rownd y bwrdd.
"Hanes enw'r tŷ oedd bod Nain yn mynd i Manchester i brynu stwff i wnïo. Pob tŷ welwch chi efo'r enwau Manchester Hosue, Maridian House neu Paris House, tai pobl gwneud dillad oeddent gan eu bod yn eu galw ar ôl y cwmnïau neu'r llefydd lle bydden nhw'n yn prynu defnydd.
Adeg y Rhyfel
"Roeddwn yn yr ysgol adeg y rhyfel ac roedd y Dutch Commandos yma, yn aros mewn gwahanol lefydd yn y dref ac yn cael hyfforddiant ar yr ynys y tu hwnt i'r harbwr. Mi fydden nhw'n neidio efo'i cit llawn i mewn i'r harbwr ac yn neidio o'r coed, fel mwncis!
"Wedyn daeth yr Americans yma. Roedden nhw'n rhoi da da a chewing gum i ni pan oedden ni'n chwarae pêl yn y cefnau.
Hufen iâ
"Roedd 'na hefyd Eidalwr yn rhedeg y siop dros y ffordd i'n siop ni, ond mi gafodd o a'i frawd eu gyrru i Ynys Manaw fel carcharorion rhag ofn eu bod nhw'n 'sbeis', ond doedden nhw ddim. Roeddent wedi bod yma ers blynyddoedd - un yn cadw siop da da a hufen iâ i lawr yn y gwaelod ac un yn rhedeg siop Paganuzzi yn uwch i fyny'r stryd.
"Mi fyddwn yn mynd i'r siop, yn enwedig yn yr haf pan roedd rhywfaint o hufen iâ, ond doedd 'na ddim yn ystod y rhyfel. Rhyw dro, mi ddywedodd Johnny Paganuzzi wrtha i 'You bring a bowl, I'm making ice cream for the Americans' gan eu bod nhw wedi dod â stwff iddo ei roi yn y ffrij, a ges i lond powlen - lympiau o binafal - doeddwn i erioed wedi cael hwnna o'r blaen a heb gael hufen iâ am flynyddoedd, roedd o'n fendigedig.
"Dwi yn 'mad' am hufen iâ rŵan - yn y gaeaf neu'r haf! Byddai mam yn rhoi dwy geiniog i mi gael wafer ac wedyn byddwn yn gofyn am un arall a mam yn dweud 'na, ti wedi cael un'. Felly i ffwrdd â fi i'r siop at dad a gofyn am ddwy geiniog, a fynta'n rhoi i mi a fi'n mynd i'w fwyta fo rywle arall rhag i mam weld.
Y 'Girls Club'
"Mi es i ffwrdd i weithio am ychydig cyn dod yn ôl yn fy nauddegau gan fod fy nhad yn wael. Un diwrnod, daeth Mrs Gwladys Price i'r drws ffrynt i ofyn i mi, fy ffrindiau Dorothy a Mavis, ail agor y Girls Club. Roedd rhai wedi dechrau clwb cyn ni, ond wedi priodi a symud i ffwrdd o Borthmadog ar ôl y rhyfel, felly roedd yn rhaid cael rhai newydd.
"Doedd 'na ddim teledu ar y pryd, felly dyma lle bydden ni'n cael hwyl - cynnal sioeau, actio, canu a dawnsio. Byddai ciw i lawr y stryd yn disgwyl am docynnau!
"'Doedd pobl o du allan byth yn deall be' roeddem yn ei wneud yn y gaeaf yn Port ond roeddem yn brysurach nag yn yr haf, yn ymarfer, cynnal sioe a phaentio'r neuadd.
"Mi wnes i symud i fyw yng Nghaernarfon ar ôl priodi yn 31 mlwydd oed. Ond ar ôl colli'r gŵr, mi wnes i benderfynu dod 'nôl at fy ffrindiau.
"Roedd yn lle hapus iawn i fyw - lle hapus ydy Port erioed, gyda phobl cyfeillgar iawn."
Atgofion Betty...