| "Roedd Port reit dawel yn y pumdegau, ond yn Gymreig. Pan roeddwn yn yr ysgol, mewn dosbarth o ryw 36 o blant, ychydig iawn o Saeson oedd yna - mor anghyffredin i mi gofio eu henwau, a'r rheini'n troi'n Gymry cyn pen dim.
"Pan roeddwn y naw oed, i'r Drill Hall fydden ni'n mynd - i ddawnsio roc a rôl! Roedd 'na hogan leol, Helen Evans, yn ein dysgu ni'r plant i ddawnsio bale a thap ac yn trefnu'r carnifal. Byddem yn dringo i ben lori - wedi gwisgo i fyny fel Robin Hood unwaith!
"Roedd 'na hefyd gymdeithas y capel i'r plant, a'r gymdeithas Sol Ffa, lle fydden ni'n dysgu canu.
"Dwi'n cofio mynd i weld y Florence Cook, y llong olaf gafodd ei gwneud yma ym Mhorthmadog, yn hwylio allan o'r harbwr am y tro olaf. Roedd y plant i gyd yna, wedi codi'n fore, yn disgwyl am y llanw iddi allu hwylio allan. Dwi'n cofio Nain yn dweud bod 'na gymaint o longau'n arfer bod yn yr harbwr fel ei bod yn bosib camu o un i'r llall, ond daeth hyn i gyd i ben pan oeddwn i'n ifanc."
 |