Y ffilm ddiweddaraf o'r wiwerodMae'r lluniau yma yn rhai o wiwerod coch cynhenid yn eu cynefin naturiol yng Nghoed Llwydiarth, yn ne ddwyrain Môn, wedi eu ffilmio gan John Evans. Yn 1998, dangosodd gwaith ymchwil gan Dr Craig Shuttleworth mai ar Fynydd Llwydiarth roedd yr unig wiwerod coch oedd ar ôl ym Môn ac mai dim ond 40 ohonyn nhw oedd ar ôl yno. Ond, diolch i waith Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn yn dal a difa'r gwiwerod llwyd, dechreuodd y wiwer goch ffynnu yma eto.
Yn 2003, cychwynnodd y Cyfeillion ar y broses o ail-gyflwyno gwiwerod coch i goedwig Niwbwrch ar ochr arall yr ynys, gyda chymorth Sŵ Bae Colwyn. Mae mwy o wybodaeth am y cynllun i'w gael ar wefan Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn (dolen ar y dde) neu darllenwch am y prosiect gan un o'r gwirfoddolwyr, Bethan Wyn Jones. Hen ffilm o'r wiwerod gan John Evans
 |