BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wiwer gochFfilmio'r wiwerod
Mae'r wiwer goch yn greadur swil ond mae John Evans o Roscolyn, Môn, wedi llwyddo i ddal ei symudiadau ar ffilm yng nghynefin yr anifail yn ne ddwyrain a gorllewin Môn ar ran Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn.
News imageGwyliwch wiwerod coch Niwbwrch
Fe gewch gip ar adar Sgrech y coed a'r Croesbig yn y ffilm hon hefyd.

News imageGwyliwch wiwerod coch Coed Llwydiarth

Yn 1998, dangosodd gwaith ymchwil gan Dr Craig Shuttleworth mai ar Fynydd Llwydiarth, yn ne ddwyrain yr ynys, oedd yr unig wiwerod coch cynhenid oedd ar ôl ym Môn.

Dim ond 40 ohonyn nhw oedd ar ôl yno ond ar ôl i'r Cyfeillion fynd ati i ddal a difa'r gwiwerod llwyd, dechreuodd y wiwer goch ffynnu yma eto.

Yn 2003, cychwynnodd y Cyfeillion ar y broses o ail-gyflwyno gwiwerod coch i goedwig Niwbwrch, gyda chymorth Sŵ Bae Colwyn.

"Treuliwyd blwyddyn gyntaf y prosiect yma yn gwylio'r gwiwerod," meddai John Evans.

Ffilmio'r wiwerod "Fe wnaethon ni hyn drwy osod camerâu fideo oedd yn cael eu troi ymlaen efo pelydrau is-goch drwy'r goedwig.

"Roedd hyn yn ein galluogi i ffilmio gwiwerod coch Môn am y tro cyntaf erioed.

"Rydyn ni wedi codi nifer o guddfannau lle byddwn ni'n gallu ffilmio'r gwiwerod yn fyw.

"Bydd y rhan fwyaf o'r ffilmio yn cael ei wneud ar gamera super-16 er mwyn cael yr ansawdd gorau ar gyfer rhaglen ddogfen 'Yn Ôl o'r Dibyn' a fydd yn olrhain hanes achub y gwiwerod coch yn un o'u cadarnleoedd olaf yng Nghymru.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y rhaglen yn cael ei dangos ar deledu ac y bydd yn cael ei dosbarthu fel ffilm addysgiadol i ysgolion."

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun i'w gael ar wefan Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn (dolen ar y dde) neu darllenwch am y prosiect gan y naturiaethwr ac un o'r gwirfoddolwyr, Bethan Wyn Jones


Cyfrannwch

sian griffiths o gwalchmai
yn werth i weld. prydferthwch ar ei orau. ffilmio gwych,

Harry
Mae dy safle yn dda iawn.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Addysg
Hanes
Lleol i Mi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy