Yn ôl traddodiad, yma y byddai Llywelyn Fawr yn dod i addoli pan fyddai'n aros yn ei dŷ hela yn Nhrefriw, ond iddo benderfynu codi eglwys yno er mwyn arbed ei wraig Siwan rhag gorfod esgyn y rhiw serth i Lanrhychwyn.Ger y fynedfa i'r eglwys mae carreg fedd Hugh Hughes, Penrhos a fu farw yn 1872 ac arni englyn (nid un o'i oreuon!) o waith Trebor Mai:
Gonest gymydog uniawn - oedd Hugh Hughes
Garodd Iesu'n ffyddlawn;
Ac er cof y gŵr cyfiawn
Hyn o le sy'n annwyl iawn.
Gerllaw mae carreg fedd tri o'i blant a fu farw yn Ebrill 1850: Hugh yn 9 oed ar y trydydd o'r mis, Pierce yn 5 oed ar y nawfed ac Elin yn 7 oed ar yr unfed-ar-ddeg.
Yn ei chyfrol o atgofion, Dirwyn Edafedd, sonia Elizabeth Williams am ddwy hen ferch a oedd yn byw yn Llanrhychwyn a chanddynt gath ddu ryfedd iawn. Ni fyddent yn twyllu'r eglwys ond daeth gŵr duwiol o'r ardal i'w cartref i ddarllen y Beibl a gweddïo. Cododd y gath ei chefn yn fygythiol, goleuwyd yr ystafell â rhyw lewyrch annaearol ac yn sydyn diflannodd y gath drwy'r simdde mewn pelen o dân. Gan ei nain y clywodd Elizabeth Williams y stori a dywed fod yr hen wraig yn grediniol fod y ddwy chwaer wedi eu hachub rhag y diafol y diwrnod hwnnw!
Gallwch fynd yn ôl i'r ffordd neu mae llwybr i lawr y caeau heibio i fwthyn gwyngalchog a thrwy dwy giât fochyn ar fferm Tan-yr-eglwys ac oddi yno'n ôl at groesffordd. Trowch i'r dde yno a dilyn y ffordd i lawr tuag at Gastell Gwydir gan fwynhau golygfeydd ysblennydd o Ddyffryn Conwy.
Hanner ffordd i lawr y rhiw serth dewch at fwthyn Llety'r Domlyn, un o ganolfannau cynnar y Methodistiaid yn yr ardal yn ôl tua chanol y ddeunawfed ganrif.
Ar y gornel ger Castell Gwydir roedd coeden hynod, y Pren Gwyn, yn arfer tyfu. Yn ôl traddodiad, byddai cariadon y fro yn cyrchu yno i dyngu llwon i'w gilydd o dan ei changhennau. Yn amser Syr John Wynn, yn ôl hen chwedl, arferai gwraig o'r enw Beti'r Boten ymguddio yn y goeden gan felltithio'r cariadon ifainc. Penderfynwyd cael gwared ohoni a dywedir i Syr John, a holl weision a morwynion Gwydir, lwyddo i'w chael allan o'r goeden trwy 'losgi slwt' sef 'cannwyll frwmstan a hen frethyn'. Syrthiodd Beti yn 'swplach taglyd' i'r llawr a rhybuddiodd Syr John hi i ymadael â'r ardal gan gyfrif ei hun yn ffodus oherwydd 'dy fygu yn lle dy losgi'!
Tybed a oes yn y stori hon adlais o gyfnod anoddefgar iawn tuag at hen wragedd braidd yn od a fyddai'n cael eu cyfri'n wrachod?
Mae i Gastell Gwydir le canolog yn hanes y dyffryn ac yn wir, yn hanes Cymru gyfan, yn arbennig yng nghyfnod Syr John Wynn (1553-1627). Prynwyd y castell gan hen daid iddo, Maredudd ap Ifan o Benamnen, Dolwyddelan tua 1500 ac ef oedd sefydlydd teulu'r Wyniaid - a sawl teulu arall, gellid tybio, gan ei fod yn dad i saith ar hugain o blant o dair gwraig a phedair gordderchwraig!
Mae'r hen ysgol ramadeg, y bont, Capel Gwydir a'r elusendai yn ein hatgoffa o hyd o ddylanwad y teulu hwn ar Lanrwst ond nid oes gofod yma i ymhelaethu dim ar hynny.

Dros y deng mlynedd ddiwethaf ail ddodrefnwyd Castell Gwydir yn llwyr yn ôl arddull yr ail ganrif ar bymtheg ac mae'n agored i ymwelwyr.
Erbyn hyn, mae diwedd y daith o fewn golwg ymhen draw y darn hirsyth o ffordd sydd dan ddŵr mor aml yn y gaeaf.
Prysurwch yn eich blaen - mae'r baned â addawyd yn aros amdanoch!
Yn ôl i'r dechrau