Man cychwyn y daith yw'r maes parcio yr ochr draw i'r Bont Fawr. Gyferbyn mae caffi Tu-hwnt-i'r-bont ond peidiwch â chael eich temptio i alw cyn cychwyn eich taith - cewch baned haeddiannol wedi cyrraedd nôl!
Dyddia'r adeilad yn ôl i'r 17eg ganrif a bu'n gartref i lys barn ar un adeg.
Mae llwybr yn mynd heibio i Du-hwnt-i'r-bont ac yn dilyn glannau afon Conwy hyd at bont Gŵar - pont droed a enwyd ar ôl y Parchedig John Gower, rheithor Trefriw tua diwedd y 19eg ganrif - a phont sydd yn cysylltu Llanrwst a Threfriw. Dilynwch y ffordd gul i'r chwith tuag at bentref Trefriw.
Prin bod unrhyw bentref yng Nghymru a hanes mwy amrywiol a diddorol yn perthyn iddo. Gwyddai'r Rhufeiniaid am ddŵr iachusol y ffynhonnau lleol a hefyd am y cyfoeth o blwm a mwynau eraill dan y bryniau. Trefriw oedd prif 'dref' cantref Arllechwedd yn yr Oesoedd Canol ac roedd gan Lywelyn Fawr dŷ hela yma - cawn sôn mwy amdano ef yn y man.
Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Trefriw yn borthladd afon prysur yn allforio coed, mwynau a llechi ond hyd yn oed wedi i'r rheilffordd ddwyn y fasnach honno parhaodd y porthladd mewn bri. Hyd at yr Ail Rhyfel Byd teithiai stemars megis y Queen of Conway a'r Trefriw Belle i fyny'r afon gan gludo'r mân fonheddwyr a oedd yn dod i 'gymryd y dŵr' yn y ffynhonnau.
Magwyd nifer o enwogion yn y fro, megis Thomas Wiliems (1550?-1622?) a gynhyrchodd orchestwaith o eiriadur Lladin-Cymraeg mewn tair cyfrol drwchus wedi hanner canrif o lafur cariad. Roedd mor swmpus fel nad oedd neb yn barod i ysgwyddo'r cyfrifoldeb ariannol o'i argraffu ac o ganlyniad prin ei fod wedi derbyn hanner y clod a haedda fel un o ysgolheigion mwyaf Cymru.
Yn Nhrefriw y sefydlwyd y wasg argraffu gyntaf yng ngogledd Cymru gan Dafydd Jones yn 1776 ac yntau ar y pryd yn henwr 73 mlwydd oed. Dau o brif wŷr llên y fro yw Ieuan Glan Geirionydd (1795-1855) a nai iddo, Gwilym Cowlyd (1828-1904).
Ond gwell bwrw ymlaen â'r daith. Wedi cyrraedd y briffordd drwy'r pentref gwelwch brif atyniad Trefriw heddiw, y felin wlân, mewn adeilad mawr, modern gyferbyn. Mae'n dal i gynhyrchu brethyn, pob cam o'r cribo a'r nyddu i'r lliwio a'r gwehyddu, ac mae'r cynnyrch ar werth yn siop y felin. Disgynyddion Thomas William, a brynodd y busnes yn 1859, sy'n dal yn berchen y felin a defnyddir dr afon Crafnant o hyd i yrru'r peiriannau - ond trwy gynhyrchu trydan ers pan ddisodlwyd yr hen olwyn ddr yn 1900.
Croeswch y briffordd a dringwch y rhiw serth heibio'r ysgol hyd at groesffordd siâp T. Trowch i'r chwith ac ymhen 80 llath trowch i'r dde i lwybr digon amlwg ond tywyll yr olwg trwy ganol y coed pinwydd. Cyn hir mae'n codi i dir mwy agored a chewch olygfa wych o Gwm Crafnant cyn estyn eto a chyrraedd y ffordd gul o Lanrhychwyn. Gwelwch Lyn Geirionnydd o'ch blaen ac yn fuan croeswch gamfa ar eich llaw dde i gyrraedd cofgolofn Taliesin.

Dyma Fryn y Caniadau, lle byddai Gwilym Cowlyd, y 'Prifardd Pendant' fel y galwai ei hun, a'i griw yn cynnal eu harwest flynyddol rhwng 1863 a dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd yr arwest yn rhyw fath o eisteddfod answyddogol gan fod Cowlyd wedi ffraeo â'r Eisteddfod Genedlaethol, yn rhannol ar gownt seisnigrwydd yr yl honno.
Credai ef fod Taliesin, y bardd o'r chweched ganrif, wedi ei gladdu ar lan llyn Geirionnydd. Go brin bod unrhyw wirionedd yn hynny ond da gweld bod y gofgolofn, a fu mewn adfeilion am flynyddoedd, wedi ei hatgyweirio a'i hail-godi yn 1995.
Ymlaen â'r daith...