BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanrwst
Pont Llanrwst Yn ôl i Fryn y Boten
Yr ochr arall i'r Bont Fawr mae Cae Llong. Yn ôl Pernant, yr hanes cyntaf amdano oedd ei alw yn Llannerch y Gloch am mai yno, cyn i Eglwys y Plwyf gael ei chodi, y byddai pobl yn dod i addoli ar alwad y gloch oedd yn crogi ar un o'r coed.

Ar y llannerch yma hefyd daeth terfyn brwydr Bryn y Boten 954, yn ôl hen hanes. Yn yr hen amser, hwyliai aml i long, neu gwch gyda llwyth, o gei llwytho Cae Llong i lawr yr afon am Gonwy a thu draw. Rwy'n cofio y diweddar Bill Kitchingman, cyn glochydd Eglwys Sant Grwst, yn galw yr adwy rhwng siop Cellar 5 a chaffi La Barrica ar y Sgwâr yn 'Steam Packet Entry', llwybr a fyddai'n arwain o Fryn y Boten i lawr at lan yr afon wrth yr hen Farcty yn Stryd yr Helyg. Byddai llong yn cludo teithwyr oddi yma i gyfeiriad Trefriw. Mae tystiolaeth fod cwmni o'r enw y 'Llanrwst Steam Packet Company' wedi bodoli yma ar un adeg.

Erbyn heddiw, mae'r 'Steam Packet Entry' wedi cau, yr hen grefftwyr wedi marw o'r tir a Neuadd y Dref ar Fryn y Boten wedi ei dymchwel i wneud lle i draffig yr 21ain ganrif.

Yn 1903, roedd 33 tafarn yn y dref, dim ond wyth sydd ar ôl erbyn hyn. Mae arwerthiant yr anifeiliaid yn cael ei gynnal yn Ffordd Parry.

Gwelwyd lleihad ym maint y farchnad ar y Sgwâr. Fe geuir yr Hen Ysgol Rad a symud y disgyblion i Adran Ffordd Nebo.

Mae amryw o siopau y dref wedi cau, gobeithiwn y gwelwn eu hagor eto. Dymchwelwyd Gwesty Fictoria a fu'n loes i'r llygad gyhyd.

Dyma felly, un olwg ar Llanrwst heddiw. Ar y llaw arall, gwelwn fod datblygiadau eithaf cyffrous wedi digwydd yn y dref. Adeiladwyd Canolfan Gymdeithasol, Pwll Nofio a Chanolfan Hamdden yn ddiweddar. Agorwyd Archfarchnad yng nghanol y dref sydd wedi bod yn llwyddiannus dros ben.

Mae Llys Hennar, yr 'Abbeyfield' newydd, yn cyflawni yr union waith a welwyd yn y Bowls ers llawer dydd a sicrhaodd ymddiriedolwyr yr Elusendai grant gan y Loteri i atgyweirio a chynnal yr hen adeilad yn Nhan yr Eglwys. Dychwelodd Hen Gloc Neuadd y Dref a'i osod ar Fryn y Boten.

Bleddyn Hughes

Yn ôl i'r dechrau

Am ragor o erthyglau am hanes Llanrwst, gweler llyfryn Cymdeithas Hanesyddol Llanrwst a'r Cylch a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, £2.50.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy