Mae Dydd Mawrth yn Ddiwrnod Marchnad yn Llanrwst. Tra mae'r rhan fwyaf o'r bobl yn eistedd i lawr i'w brecwast, mae'r Sgwâr yn orlawn gyda pherchnogion y stondinau yn cystadlu â'u gilydd i arddangos eu nwyddau cyn i'r cwsmer cyntaf gyrraedd. Ar y ffyrdd o gwmpas yr ardal, mae cymysgedd o lorïau, Landrovers, 'pickups', faniau a thractors yn llusgo trelars tuag at Cae Sêl i ddadlwytho eu da, defaid ac ŵyn a ddaw dan forthwyl yr arwerthwr yn hwyrach yn y dydd.
Mae perchnogion y siopau yn cadw golwg barcud ar y cloc ac yn gobeithio na fydd eu cydweithwyr yn hwyr; y rheolwyr banc a'r twrneiod yn clirio eu desgiau ar gyfer diwrnod prysur arall a'r tafarnwyr yn rhuthro i newid y casgeni cwrw.
Erbyn deg o'r gloch mae'r strydoedd yn tagu gyda thraffig a'r palmentydd yn llawn o siopwyr, ffermwyr a masnachwyr.
Yn fwy na dim arall, tref farchnad yw Llanrwst yn gwasanaethu ardal wledig eang. Mae'r dref wedi ei hadeiladu ar ochr ddwyreiniol yr Afon Conwy tua 12 milltir i'r de o'r pwynt lle mae'r afon yn ymuno â'r môr.
Datblygodd Llanrwst yn dref farchnad yn Nyffryn Conwy oherwydd ei bod yn hawdd teithio yma o bentrefi y dyffryn a phentrefi y tir uchel o gwmpas y dyffryn.
Datblygodd Llanrwst yn ganolfan oherwydd ei lleoliad arbennig o fewn rhwydwaith drafnidiaeth yr ardal. Roedd yma fan croesi afon ardderchog, yn ddiogel, yn hwylus ac yn rhad i'r rhan fwyaf o deithwyr. Nid oes problem croesi'r afon pan mae'n isel, ond os digwydd iddi fwrw glaw am ychydig oriau yn y mynyddoedd, mae'r afon yn codi yn sydyn ac ni all unrhyw deithiwr ei chroesi.
Yn 1636, codwyd pont i oresgyn y broblem. Roedd croesi yr afon i'r gogledd o'r dref yn y dyddiau cynnar yn anodd oherwydd effaith y llanw a'r llifogydd. Ni chodwyd pont arall tros Afon Conwy tan y 19eg canrif ac roedd defnyddio cychod i groesi yn Nhal-y-cafn a Chonwy yn annifyr a pheryglus iawn. Oherwydd man croesi hwylus yn Llanrwst, datblygodd y dref yn fangre i bob math o deithwyr, ffermwyr, porthmyn a thirfeddianwyr cyfoethog.

Rhinwedd arall i bwysigrwydd Llanrwst oedd Castell Gwydir, sef cartref un o deuluoedd cyfoethocaf a dylanwadol Gogledd Cymru, y Wynniaid o Wydir. Roedd y stâd yn cyflogi pobl leol ac yn cynhyrchu gwaith a busnes yn y dref. Ef oedd yn gyfrifol am godi yr Elusendai a'r Ysgol Rad.
Yr hen enw ar y Sgwâr yn Llanrwst oedd 'Bryn y Boten'. Nid wyf yn sicr beth yw arwyddocâd yr enw ond gyda threigl amser newidiodd yr enw i 'Ancaster Square'.
Yma o gwmpas Bryn y Boten datblygodd tref Llanrwst i wasanaethu ardal wledig gyda'r rhan helaethaf o'r boblogaeth yn ennill eu bywoliaeth o gynnyrch y tir, fforestydd a'r afon. Ac felly mae hi wedi bod ar hyd y canrifoedd. Ac eithrio llawr y dyffryn, tir sâl a chreigiog sydd i'w gael o gwmpas y dref. Roedd y ffermwyr yn cadw gwartheg a defaid yn fwy na thyfu ŷd a thatws. Defaid mynydd a gwartheg duon oedd prif gynhaliaeth y gymuned.
Mewn canlyniad i gadw defaid, roedd cynhyrchu sannau gwlân yn bwysig iawn yn y dyffryn yn y 18fed ganrif gyda merched pob pentref a thref wrthi'n ddygn yn gwau ar gyfer y farchnad. Roedd pwysigrwydd i'r gwartheg hefyd gan fod porthmyn yn galw yn rheolaidd yn y dref. Teithient o fferm i fferm i brynu gwartheg a byddent hefyd yn prynu yn y farchnad leol a'r ffeiriau.
Gwŷr gonest a dibynadwy oedd y porthmyn. Yn ychwanegol at yrru gwartheg ar hyd llwybrau traddodiadol, byddent hefyd yn cwblhau tasgau eraill tra phwysig megis cludo llythyrau, dogfennau ac eiddo gwerthfawr i Lundain.
Mwy o hanesion tre Llanrwst...