Roedd y coed derw a dyfai ar lechweddau y dyffryn yn cynhyrchu'r rhisgl gorau ar gyfer y tannin angenrheidiol. Mae J. Lloyd Williams yn cynnwys disgrifiad da o'r gweithgarwch hwnnw yn ei Atgofion Tri Chwarter Canrif.
Un o ddiwydiannau pwysicaf Llanrwst yn yr hen amser oedd gwneud lledr. Yr oedd yno ddau farcty, un ym Mhen-isa'r dre a'r llall yn y Plas Isa. Y pryd hwnnw ceid y tannin angenrheidiol o risgl y coed derw, ac roedd cyflawnder o dderw yng nghoedwigoedd Gwydir. Am gryn fis bob Gwanwyn, byddai'n helynt a hanner yno - catrawd o wŷr, gwragedd a phlant yn gweithio'n brysur yn y coed, yn treulio'r dydd ar ei hyd, yn cynnau tân yn yr awyr agored, ac yn bwyta'u prydau; ac o hynny'n cael rhywfaint o flas y bywyd anwar y mae olion ohono yn par i lechu yng ngwaelod ei natur. Gwaith y dynion fyddai torri i lawr y deri a farciwyd gan y coedwigwr a'u dewisai yn ddoeth, un oddi yma ac un oddi acw, ac nid dinoethi darn o wlad. Hyfryd fyddai clywed ergydion y byweill a 'shi, shi' y llifiau yn atseinio o lechweddau Carreg y Gwalch; yna yn gwrando am sŵn un o'r cewri yn cwympo, a'r cangau a'r brigau yn gwichian a griddfan wrth ddisgyn yn drwm yn erbyn y ddaear a'u hysigo a'u hollti. Ac yn awr, daw bwyell a llif i ddi-aelodi'r hen gawr a heriodd ystormydd pum canrif. Fel haid o fwlturod, daw merched a phlant a gyrdd coed yn eu dwylo a churo a churo ar y rhisgl. Eu camp hwy fydd peidio â malurio'r rhisgl ac ar yr un pryd malu'r haen o gelloedd tyner noddlyd a ffurfir bob gwanwyn rhwng y pren a'i risgl. Wedi gwneud hyn yn ddeheuig, gwaith hawdd fydd dirisglo'r coed - diosg y rhisgl oddi am y pren, a gadael hwnnw'n wyn-felyn ac yn llaith oherwydd y nodd a wasgwyd o'r celloedd newydd anedig. Cludid peth o'r rhisgl ar ei union i'r barcdai, a dodid ef yn y pyllau dŵr i fwydo'r tannin allan. Pentyrrid y gweddill yn deisi mawr cochddu i aros ei anfon i Loegr neu Iwerddon. Ar derfyn dydd llawn prysurdeb, gwelid yr orymdaith yn mynd tua'r dre'; y merched a'r plant yn llusgo beichiau a changau a brigau'r derw yn goed tân. Ar eu holau byddai'r ffordd o'r Pren Gwyn i'r Bont wedi ei rhychu a'i llinellu gan y llusgo. Yn y ddwy ysgol, ni byddai ond dyrnaid o'r plant mwyaf parchus, ac ychydig o waith a wneid nes byddai'r cynhaeaf rhisgl drosodd. Crefftwyr y dre...
 |