Yn ôl tystiolaeth Pernant, arferai cwt bach pren fod ar y palmant o flaen siop Nodwydd a Phin ar y Sgwâr ac yno roedd Edward Thomas y crydd wrthi yn gofalu am draed sych i'r trigolion. Galwyd Llanrwst yn 'Dref y Cryddion' ar dro ers talwm. Arferai dau ddwsin o gobleriaid weithio yma a mwy na'u hanner yn feirdd ac eisteddfodwyr. Er mai gwaith lledr oedd y pwysicaf yn y dref, roedd gwaith coed a gwneud dodrefn yn bwysig hefyd. Tyfai amrywiaeth o goed ar lechweddau'r dyffryn a dyma paham y daeth Llanrwst yn enwog am ei thelynwneuthurwyr, ei chlociau mawr a chypyrddau deuddarn a thridarn. Mae William Camden, yr hanesydd teithiol, yn cyfeirio at y dref gan ddweud 'This town, small and ill-built, is famous for harp-makers and had a good corn market'. Nid oedd unman yng Nghymru yn enwocach am ei thelynau na Llanrwst tra bu galw am delynau. Mae'n debyg yr enwocaf a'r mwyaf dylanwadol ohonynt i gyd oedd John Richards (1711-1789). Ganwyd ef yn y King's Head. Yn sicr, mae clociau mawr Llanrwst yn uchel eu parch, yn enwedig un wedi'i wneud gan y pen crefftwr hwnnw, Watkin Owen. Mae dau Watkin Owen yn gysylltiedig â Llanrwst, un yng nghanol y ddeunawfed ganrif, a'r llall genhedlaeth yn ddiweddarach. Roedd tad yr ail Watkin Owen, John Owen, wedi bod yn brentis gyda gwneuthurwyr clociau yn y Trallwng yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif. Daeth i Lanrwst i sefydlu ei weithdy ac fe'i dilynwyd yn y grefft gan Watkin ei fab, a chan David Owen, mab Watkin. Gyda dyfodiad y ffordd dyrpeg o'r Amwythig yn 1777, daeth y Goets Fawr i Lanrwst. Ychydig yn ddiweddarach, teithiodd yr 'Irish Mail' o'r Amwythig i Lanrwst, gan groesi y Bont Fawr ac yna ymlaen i Gaergybi. Datblygodd gwesty'r Eryrod yn Dafarn y Goets Fawr. Gwelwyd datblygiad rhyfeddol rhwng 1765 a 1840. Mewnfudodd nifer fawr o bobl i'r dref a chwyddodd y boblogaeth o 1000 yn 1700 i 2000 erbyn 1800. Daeth yma nifer o wŷr bonheddig dylanwadol i greu dosbarth canol newydd. Yn ystod y 18fed ganrif, a than y blynyddoedd cynnar yn y ganrif ddiwethaf, strydoedd y dref oedd corlannau y farchnad anifeiliaid. Yn Stryd y Moch (Stryd yr Orsaf) cynhaliwyd arwerthiant moch ac yn Stryd y Pwll (Stryd Dinbych) ac ar Fryn y Boten gwerthwyd gwartheg, ceffylau a defaid. Byddai Bryn y Boten yn llawn stondinau ar Ddiwrnod Marchnad ac roedd Neuadd y Dref dan ei sang. Ac erbyn heddiw...
 |