| Mewn cyfweliad gyda Lleol, dywedodd Bryn Terfel mai'r gobaith yn 2010 ydy cynnal dau benwythnos o gyngherddau gyda digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn yr wythnos rhwng y ddau benwythnos i greu rhywfath o ŵyl ymylol.
Dywedodd hefyd bod y trefnwyr yn gwneud eu gorau i ddenu 'enw mawr' i ŵyl y dengmlwyddiant: yn y gorffennol mae wedi dweud bod Elton John a Tom Jones ar ei restr ddelfrydol bersonol:
Gwrandewch ar Bryn Terfel yn sôn am y cynlluniau ar gyfer 2010
Eisoes cyflwynwyd cyfres o gyngherddau 'ymylol' ychwanegol gan artistiaid ifanc yng ngŵyl 2007 yn yr Ysgubor Fawr, sef hen sgubor sydd wedi ei hadnewyddu ar stâd y Faenol:
Gwrandewch ar Bryn Terfel yn sôn am berfformiadau'r sgubor yn 2007
Cafodd y cyngherddau yma eu cynnal yn y prynhawn ac mewn awyrgylch mwy anffurfiol na'r prif gyngherddau. Ymysg perfformwyr 2007 roedd yr offerynnwr taro ifanc o Gymru, Dewi Ellis Jones, y pianydd clasurol Benjamin Grosvenor a enillodd Rownd Derfynol yr Allweddellau yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC 2004 ac sydd wedi arwyddo cytundeb datblygu arloesol gydag EMI; y soprano o'r Iwerddon, Ailish Tynan, Rhys Taylor y clarinetydd a enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2006 a rhai o ddisgyblion canolfan gerdd William Mathias, Caernarfon.
 |