Beth yw eich cynlluniau am ddyfodol yr ŵyl?
Wrth gychwyn yr wŷl, ddaru ni ragweld mai am dair blynedd yn unig y byddai'n para, ond erbyn hyn rydym yn ein seithfed blwyddyn ac mae popeth yn mynd yn dda. Mae'r babi wedi cychwyn cerdded, ac erbyn hyn yn gallu rhedeg.
Mae pobl yn dod, mae'r artistiaid yn dod - mae pawb yn mwynhau ac mae'n dod ag arian i'r ardal. Mae 'na le i'r ŵyl yn y cyffiniau yma.
Felly, rydym yn ystyried cynnal yr ŵyl dros wythnos lawn yn y dyfodol. Dwi ddim eisio iddo droi mewn i Eisteddfod arall ond hoffwn wneud y gorau o dir stâd y Faenol. Hoffwn gynnal gweithdai a chyngherddau bach yn yr holl adeiladau hanesyddol yma - cerddoriaeth siambr, werin, jazz, blŵs, gyda'r bobl yn mynd o un i'r llall yn mwynhau.
Hoffwn i'r ŵyl ymestyn dros ddau benwythnos, gyda seren fawr yn dod i chwarae ar y penwythnos gyntaf. Fe hoffwn yn fawr i Elton John, Rod Stewart a Tom Jones ddod i chwarae yma rhywbryd.
Pa sêr eraill hoffech chi iddyn nhw ddod i berfformio i'r Faenol?
Luciano Pavarotti o'r byd opera. Mae'n sâl ar hyn o bryd yn anffodus, ond mi fuasai'n wych iddo ddod yma i berfformio.
Hoffwn i Tom Jones chwarae ar noson Tân y Ddraig ac wedyn cael rhyw fath o synopsis o'r perfformwyr Cymreig sydd wedi chwarae yma dros y blynyddoedd - Geraint Jarman, Caryl Parry Jones - creu llwyfan i ddathlu byd roc Cymreig.
Yn olaf, fy mreuddwyd yw cael Dame Edna i arwain un noson. Mi wnes i gyfarfod Barry Humphries wrth iddo berfformio yn Efrog Newydd ac roedd o'n wych - dwi'n ffan mawr.
Beth am boblogrwydd opera erbyn hyn?
O'r cychwyn, fy ngobaith oedd creu llwyfan i mi allu dangos beth dwi'n ei wneud bob dydd, sef canu opera. Roeddwn yn amheus am y noson opera i gychwyn ac mae ei boblogrwydd wedi fy synnu.
Pan ddaeth Andrea Bocelli i berfformio yma yn 2006, daeth 12,000 o bobl i'w weld. Er hynny, roedd bawb mor ddistaw, yn gwrando'n astud.
Os fyddai'n bosib i mi greu rhywbeth fel y gwnaeth y Tri Thenor yn y 1990au - cael pobl i ddod i'r ŵyl a mwynhau opera, mi fuaswn i'n hapus.
Ydych chi'n cael cyfle i eistedd efo'r gynulleidfa yn ystod yr ŵyl?
Dwi'n troedio'r llwyfan ar y nosweithiau operatig wrth gwrs, ac wedyn dwi tu cefn i'r llwyfan yn cyfarfod artistiaid ar y nosweithiau eraill. Ond dwi bob tro yn mwynhau Tân y Ddraig gyda'r teulu - cael bwyd a gwin a chyfarfod hen gyfeillion. Mae o'n noson i fwynhau fy hun. Mae o fel yr Eisteddfod!
Beth mae'r artistiaid o dramor yn ei feddwl o'r ŵyl?
Roeddwn yn canu efo Marcello Alvarez mewn tŷ opera yn Llundain yn ddiweddar - fo oedd y tenor cyntaf i ganu yn yr ŵyl. Ddaru o sôn am yr amser yma, a'i fod wedi mwynhau'r croeso, mwynhau gweld y wlad, mwynhau cael gwersi pysgota ar Afon Seiont, mi fuasai wrth ei ffodd yn dod 'nôl.
Roedd Elaine Paige wedi mwynhau hefyd, roedd hi yma am yr wythnos.
Wrth gyrraedd, nid yw nifer o'r artistiaid yn sicr iawn o beth sy'n digwydd ond erbyn y diwedd mae pawb yn mwynhau.