BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwraig 'ar goll' ar y maesMark a Maes D
Mae maes yr Eisteddfod yn gallu bod yn lle dryslyd i'r anghyfarwydd. Mark Barlow o Chwilog, Sais sydd wedi dysgu Cymraeg, sy'n eich cyflwyno i Faes D ac yn edrych ar yr Eisteddfod drwy lygaid dysgwr.
"Rwy'n dod o deulu Saesneg a doedd gen i ddim cysylltiadau efo Cymru o gwbl. Yna, amser maith yn ôl mi wnes i gyfarfod Einir, Cymraes Gymraeg. Roedd pawb yn ei theulu yn siarad Cymraeg ac roedd Einir am i'w theulu hi gael ei fagu yn Gymraeg hefyd. Felly dyna oedd fy ysgogiad i i ddysgu'r iaith. Roeddem yn byw ym Mryste ar y pryd ac mi ddaru gymryd cryn dipyn o amser i mi ddysgu'r iaith. Ond wrth i ni ddisgwyl ein plentyn cyntaf dechreuais gymryd y peth o ddifrif gan fod Einir yn benderfynol mai Cymraeg fyddai iaith yr aelwyd. Ond roedd yn anodd ffeindio'r amser a gwersi da nes i mi fynd ar gwrs i Nantgwrtheyrn a chwrdd ag Elwyn Hughes, tiwtor ym Mhrifysgol Bangor. Ges i wybod am y cyfle i ddysgu trwy'r post ac mi wnes i hyd at lefel A y ffordd yna.

"Da ni wedi bod yn mynd i'r eisteddfod am flynyddoedd maith, dwi ddim yn meddwl ein bod wedi colli yr un ers ryw bymtheg mlynedd ac erbyn hyn da ni'n mynd i wersylla efo'r plant. Gan ein bod wedi byw ym Mryste tan y ddwy flynedd diwethaf roedd yn bwysig gwneud rhywbeth oedd yn rhoi mwy o Gymreictod i'r plant.

"Y tro cyntaf es i i'r Eisteddfod nid oeddwn yn siarad lot o Gymraeg ac roeddwn yn rhy ofnus i sgwrsio efo neb. Diffyg hyder ydy'r broblem wrth ddysgu - mae'n llawer haws i bobl 'neud cwrs gyda chefnogaeth y tiwtor ond mae'n wahanol siarad efo Cymry Cymraeg. Dwi'n cofio dechrau defnyddio'r iaith i brynu diod o stondin, a finnau'n paratoi atebion - trïo dyfalu pa fath o bethau fydd y person tu ôl i'r stondin yn ei ddweud wrtha'i ond fydden nhw byth yn dilyn y patrwm!

Un o'r pethau mwyaf diddorol wrth fynd i'r Eisteddfod oedd y ffaith fy mod i, fel Sais, ddim yn gwybod dim am y byd hollol estron 'ma yng Nghymru. Pan oeddwn i'n ifanc nid oeddwn yn dysgu dim am Gymru yn yr ysgol felly roedd yn agoriad llygad gweld y byd sy'n mynd ymlaen yn yr Eisteddfod.

"I fod yn onest, yn y cychwyn roedd pethau fel yr orsedd yn edrych braidd yn od i mi fel Sais (er ei fod yn ymddangos braidd yn od i rai Cymry hefyd!) Dydy'r syniad o ddwyieithrwydd ddim yn gyffredin i lawer o Saeson. Saesneg yw'r iaith a mae pob iaith arall yn estron, felly oherwydd hynny doedd pobl fel fi ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw eu iaith iddynt.

"Does yna ddim bygythiad i Saesneg felly nid yw'r Saeson yn meddwl beth mae'r iaith yn ei olygu iddynt. Mae'r holl wisgo fyny, y coroni, y cadeirio, yn edrych yn od ond mae'n symbolaidd o'r hen draddodiadau a'r iaith. Mae na ystyr a phwysigrwydd iddo sy'n anodd i'w ddallt i gychwyn.

"Dyma'r tro cyntaf i'r eisteddfod fod yn fy ardal i. Mi ges i a dysgwyr eraill ein gwahodd i fod ar bwyllgor y dysgwyr gan fod y tiwtoriaid oedd arno yn meddwl ei fod yn syniad da cael barn dysgwyr hefyd.

"Mi fydd yna groeso mawr i bawb ym Maes D. Rydyn ni wedi penderfynu newid yr enw o babell y dysgwyr i Maes D gan ei fod yn bwysig denu pobl i ddangos beth sydd ar gael yno. Un o'r pethau 'da ni'n trïo ei 'neud wrth newid yr enw yw denu pobl sy'n dysgu, pobl sydd eisiau dysgu sydd heb ddechrau eto a hefyd Cymry Cymraeg er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg. Mae'n bwysig cael y cyfle i ddefnyddio'r iaith efo Cymry Cymraeg yn hytrach na dysgwyr eraill trwy'r amser.

"Mi fydd yna stiwardiaid ar gael i helpu unrhyw un, yn enwedig pobl ddi-Gymraeg. Mae'n anodd weithiau mynd mewn i 'stafell a phawb yn siarad Cymraeg. Dydy oedolion ddim yn hoffi dangos nad ydynt yn gwybod pethau ac mae'n bwysig dangos fod yna groeso mawr i bawb.

"Mi fydd yna rhywun wrth law i ddadansoddi'r Coroni a'r Cadeirio - symleiddio pethau 'chydig i ddysgwyr.

"'Da ni am gael cystadlaethau i ddysgwyr, fel dweud pump jôc, perfformio 'sketch' a chanu - siawns i ddysgwyr gymryd rhan yn y cystadlu.

"Mae na hefyd gaffi ac mi fydd yna gyfle i gael sgwrs efo pobl wahanol bob dydd am 1 o'r gloch, gan gynnwys Dafydd Iwan, Geraint Lovgreen, Nia Parry (o'r rhaglen cariad@iaith) a'r Archdderwydd.

"Mi fydd yna wersi Cymraeg rhwng 10 ac 11am bob bore - bydd safon y gwersi yn dibynnu ar bwy sy'n dod draw i ymuno.

"Fel crefftwr fy hyn, mi fydda i'n gwneud rhyw fath o waith crefft ym Maes D ac mi fydda i ac Einir hefyd yn addurno bisgedi efo'r plant ar bore dydd Mercher.

Felly croeso i bawb - a gobeithio ein bod ni wedi creu rhaglen efo digon o amrywiaeth i bawb. Mi fyddwn ni ar agor o'r dydd Sadwrn cyntaf ymlaen a bydd yna amserlen o be sy' mlaen ar gael. Nid yw Maes D yn bell o'r fynedfa, felly dewch draw!


Cyfrannwch

Llio o Fangor
Dwi'n meddwl bod y pebyll yma yn peth fanteisiol i'r iaith gymraeg, gan ei fod o'n gadael i pobol ddi-gymraeg clywed a dysgu'r iaith mewn awyrgylch lle nad oes ots i neb os ydych chi yn cam-dreiglo neu'n defnyddio'r dywediad anghywir - dyna pam mae'r pebyll yna yma yn yr Eisteddfod, felly tyred, mentrwch yr iaith!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy