Mae'r ganolfan iaith yn hen bentref chwarel Nant Gwrtheyrn yn denu dysgwyr o bob cwr bob blwyddyn - yn eu mysg Steve, Linda a Jane o Gasnewydd. Dyma eu sylwadau nhw am ddysgu Cymraeg, ac am ddod yr holl ffordd i Ben Llŷn i wneud hynny.
Pam ddaru chi benderfynu dysgu Gymraeg?
Steve: Roeddwn yn y brifysgol yn Leeds ac yn dod i Gymru lawer gwaith i ddringo yn y mynyddoedd. Wrth gwrs, roedd llawer o bobl yn Eryri yn siarad Cymraeg ac roeddwn yn benderfynol o ddysgu. Ond doedd yna ddim cyfle yn Lloegr.
Pan ddaeth Linda a fi i Gymru, mi ddaru ni benderfynu mynd i ddosbarth nos i ddysgu ac felly cwrdd â phobl eraill sydd rŵan yn ffrindiau. Mae'n gymdeithasol iawn.
Mae na bethau unigryw i'r Gymraeg, fel cynganeddu - mae o fel byw mewn dau fyd gwahanol - doeddwn i 'rioed wedi clywed am hynny o'r blaen. Dwi'n gynganeddwr ofnadwy, ond dwi'n gallu gwerthfawrogi'r grefft.

Jane: Roedd teulu fy mam yn dod o Ynys Môn a byddwn fel hogan ifanc yn mynd i ymweld â hen fodryb nad oedd yn gallu siarad Saesneg o gwbl. Dyma'r tro cyntaf i mi fod yn ymwybodol fod pawb yn y byd ddim yn gallu siarad Saesneg.
Nain oedd yr unig air Gymraeg roeddwn yn gwybod fel plentyn.
Beth am yr Eisteddfod?
Jane: Yn fy eisteddfod gyntaf, ddaru Mererid Hopwood ennill y gadair - roedd yn brofiad arbennig i fod yn awyrgylch y pafiliwn.Dwi'n gwybod fod rhai pobl yn dweud ei fod yn hen ffasiwn erbyn hyn ond roedd safon y perfformio yn wych, yn enwedig yn Eisteddfod yr Urdd. Dwi'n credu fod gan blant Cymru lawer mwy o hyder wrth berfformio - mae'n rhoi cyfleoedd i gannoedd bobl.
Linda: Eisteddfod Casnewydd oedd y tro cyntaf i mi fynd iddo. Mi wnes i helpu allan ym mhabell y dysgwyr ac roedd yn brofiad bendigedig cyfarfod â phobl o dros y byd. Mi wnes i gyfarfod dyn o Swydd Efrog (o lle dwi'n dod yn wreiddiol) ac roeddwn i yn synnu ein bod yn siarad efo'n gilydd yn y Gymraeg!
Sut ddaru chi ddewis dysgu Cymraeg?
Jane: Mi benderfynais i roi'r gorau i'r gwaith am flwyddyn i ddysgu'r Gymraeg. Mi wnes i gwrs yn y brifysgol er mwyn i mi edrych fel nad oeddwn yn wastio fy mlwyddyn ac roedd yn eithaf drud wrth golli cyflog, ond roedd o'n werth o.
Mi es ar gwrs preswyl Wlpan i Brifysgol Llanbedr ac roedd o fel kick start, yn help mawr. Maen nhw'n dweud eich bod cyrraedd safon TGAU o fewn wyth wythnos ar y cwrs.
Beth am groeso pobl Cymru wrth i chi siarad Cymraeg?
Jane: Mae'n dibynnu ar y bobl. Mae rhai pobl ddim yn hollol fodlon siarad efo chi ond mae eraill yn trïo bod yn gwrtais, yn gwybod eich bod ddim yn rhugl ac felly yn trïo newid eu iaith i'ch helpu.
Mae'n anodd siarad efo Cymry Cymraeg - maen nhw'n siarad mor gyflym ac yn newid o un i'r llall, o Saesneg i'r Gymraeg. Ond mae'n bwysig peidio arafu'r sgwrs gormod gan mai siarad efo pobl Cymraeg ydy'r unig ffordd i ni ddysgu.
Faint o Gymraeg ydych chi'n ei ddefnyddio bob dydd?
Steve: Yr wythnos yma, dim ond Cymraeg wrth gwrs!
I ddweud y gwir, siarad ar y ffôn sy'n anodd. Dydach chi ddim yn gallu gweld y person arall - dwi'n casáu siarad Cymraeg ar y ffôn!
Jane: Roeddwn i'n byw drws nesa i rhywun am flynyddoedd cyn gwybod ei fod yn siarad Cymraeg fel mamiaith!
Oes ganddoch chi unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill?
Linda: Defnyddiwch yr iaith bob dydd.
Jane: Cymerwch pob cyfle - gwrandewch ar y radio, darllenwch ...
Mae na lot o bobl sy'n dweud eu bod eisiau dysgu siarad Cymraeg, ond ddim darllen a 'sgwennu, ond mae'n bwysig gwneud popeth os ydych eisiau dysgu'r iaith yn iawn.

Steve: Mae'n bosib eistedd yn y tŷ ar ben eich hun a darllen llyfr, ond dydach chi ddim yn gallu eistedd yna a siarad efo'ch hun a chael ateb hefyd!
Beth am y dyfodol?
Jane: Symud i'r gogledd - dyma'r unig ffordd i ddysgu'r iaith yn iawn yn fy marn i.
Roedd yn siom fawr pan wnes i darganfod fod yr unig air roeddwn yn gwybod, sef Nain, ddim yn cael ei ddefnyddio yn y de! Dyna pam ddes i'r Nant - i gyfieithu o iaith y de i'r gogledd.
Sut le yw Nant Gwrtheyrn?
Jane: Lle anghredadwy - prydferth a hanesyddol. Does yna ddim radio, dim teledu, dim byd. Dim ond bwyd da, gwin gwych a thiwtoriaid o safon uchel.