BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pentref TrawsfynyddEisteddfod Stesion, Trawsfynydd
Neuadd Gyhoeddus Trawsfynydd
Nos Wener gyntaf Hydref
Cefndir
Pentre bach tua hanner milltir o Drawsfynydd yw Stesion. Yn y 1920au, yr oedd yn lle prysurach na'r Traws, gan mai dyma, fel mae'r enw yn ei awgrymu, yw lleoliad yr orsaf reilffordd agosaf.

Y mae tocyn Eisteddfod y Stesion a gynhaliwyd ar Chwefror 16, 1924, wedi goroesi hyd heddiw. Arno, mae'n dweud mai Emlyn Williams oedd yn arwain, Bobbie Evans oedd yr ysgrifennydd a bod rhaid talu hanner ceiniog i gymryd rhan.

Yn ôl yr hanes, byddai Idris Jones hefyd yn un o'r arweinwyr. Pan fyddai plentyn yn ennill cystadleuaeth, byddai'n galw allan "O Ble?", a byddai'r plant yn ateb: "O'r Stesion!".

'Pin' oedd y pris mynediad ers talwm ac roedd yr eisteddfod yma yn cael ei hadnabod fel Eisteddfod y Pin am rai blynyddoedd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Glyn Heddwyn a chadair 2003Cynhaliwyd yr eisteddfod yma yn wreiddiol yn y llofft stabl ger yr orsaf. Ond wedi iddi gael ei gohirio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, symudwyd yr achlysur i'r Capel Sinc, sy'n cael ei enw o'r deunydd a ddefnyddiwyd i adeiladu'r to.

Yna, wedi adeiladu'r Neuadd Goffa yn Traws yn y 1930au, symudodd yr eisteddfod i'w chartref parhaol presennol.

Er nad yw'r eisteddfod yma'n cael ei galw yn un gadeiriol, mae Cadair Stanley Huws yn cael ei chynnig yn wobr i enillydd cystadleuaeth wahanol bob flwyddyn.

Mae Glyn Heddwyn (uchod) yn gyn enillydd cadair yr eisteddfod am ysgrif yn hel atgofion am ei ddyddiau ysgol yn Nhrawsfynydd.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy