BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Neuadd Goffa TrawsfynyddEisteddfod Llawr Plwy'
a Phen Stryd, Trawsfynydd

Neuadd Goffa Trawsfynydd
Sadwrn cyntaf Chwefror

Cefndir
Yn 1898, penderfynodd pedwar o gapeli ardal Trawsfynydd ddod at ei gilydd i drefnu Eisteddfod Llawr Plwy' a Phen Stryd. Ar y dechrau, roedd y cystadlu rhwng Ysgolion Sul capeli Aber, Pen Stryd, Jeriwsalem ac Eden.

Cyn adeiladu Neuadd Goffa Trawsfynydd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, cynhaliwyd Eisteddfod Llawr Plwy mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys gwersyll y fyddin ger pentref Traws yn y 1910au.

Mae rhaglenni o'r achlysur wedi eu cadw ers dechrau'r ganrif, a pharhaodd y pentrefwyr i gystadlu ym mhob tywydd, hyd yn oed yn ystod eira mawr 1963.

Mae Bryn Terfel ymysg yr enwogion sydd wedi cystadlu yn yr eisteddfod yma. Mae'r ysgrifennydd ers 1969, Mrs Mair Wyn Thomas, yn cofio cwrdd â Bryn Terfel eto wrth ddosbarthu rhaglenni'r eisteddfod yn Siop Eifionnydd, Porthmadog. Dywedodd wrtho ei fod erbyn hynnyn rhy fawr ac yn rhy enwog i ddangos diddordeb yn yr eisteddfod fach. "Rhy fawr yn sicr," atebodd Bryn, "ond dim yn rhy enwog".

Ymysg y cantorion eraill sydd wedi cystadlu yma mae enillwyr y Rhuban Glas fel William Jones ac Alun Jones.

Mair Wyn Thomas



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy