BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pentref LlandderfelEisteddfod Gadeiriol Llandderfel
Neuadd Bro Derfel
Dydd Gwener y Groglith
  • Atgofion Cefnfab am ennill cadair Llandderfel
  • Cefndir

    Dechreuodd Eisteddfod Llandderfel yn 1898. Syniad cymdeithas leol i hybu buddiannau pobl ifanc ydoedd i gychwyn, a dyna pam y caiff ei galw yn Eisteddfod Nawdd Plant Derfel. Ar ddiwedd y 1800au, câi ei chynnal yn sied wair Fferm Plas Isa.

    Yna, yn y 1920au daeth DJ Williams, Llanbedr, yn brifathro ar Ysgol Llandderfel ac aeth ati i adeiladu cartref parhaol i'r eisteddfod, sef pafiliwn gyda digon o le i ddal corau a bandiau pres o'r ardaloedd cyfagos.

    Mae un traddodiad unigryw i'r eisteddfod sydd wedi para hyd heddiw. Am dri o'r gloch y p'nawn, dim ots beth sy'n digwydd ar y llwyfan, bydd pawb yn codi ar eu traed i ganu emyn Huw Derfel, Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion.

    Byddai'r eisteddfod yma hefyd yn cael ei hadnabod fel Eisteddfod Gadeiriol y Groglith, Llandderfel ers talwm.

    Mae gan yr eisteddfod yma hefyd orsedd o fath, a defnyddir cleddyf arbennig yn seremoni draddodiadol y cadeirio.

    Ymhlith y rhai sydd wedi arwain yr eisteddfod yma mae Pat O'Bryan a Llwyd o'r Bryn. Hefyd, dyma'r gadair gyntaf i Gwenallt Llwyd Ifan ei hennill cyn mynd ymlaen gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 1999.

    Erbyn hyn, mae pafiliwn DJ Williams wedi ei addasu, a chaiff ei ddefnyddio fel neuadd y pentref. Bydd y plant yn dod i gystadlu i'r neuadd ar b'nawn yr eisteddfod, ac oedolion o'r ardal a thu hwnt gyda'r nos.



    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Eisteddfodau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy