| "Mae gen i atgofion melys o'r amser pan enillais gadair Eisteddfod Llandderfel, neu yn hytrach Priodas y Pasg. Ie, dyna sut yr wyf i yn dal i nodi'r diwrnod hwnnw ar brynhawn Gwener y Groglith yn 1994. Hon oedd fy nghadair gyntaf i mi ei hennill yng ngogledd Cymru. Felly, fel bardd a'i ddychymyg yn effro, 'roeddwn yn teimlo bod elfennau'r nefoedd am ddathlu'r achlysur byth cofiadwy, trwy adael cenllysg i ddisgyn fel reis ar fy mhen wrth i mi gyrraedd y pentref. Dyna'r rheswm i mi alw'r eisteddfod yn Briodas y Pasg. Cefais wefr arall hefyd yn ystod y cadeirio. Wedi i'r seremoni orffen methais ddeall paham nad oedd neb wedi rhoi cadair i mi. Cyn hyn cadair fach a welais yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol. Hwn oedd y tro cyntaf i mi ennill un fawr, ac nid oeddwn wedi sylweddoli fy mod eisoes yn eistedd yn fy ngwobr. Ond nid dyna ddiwedd yr hanes amdanaf yn eistedd yn y gadair. Am fod y tywydd mor wamal â'r daith yn ôl i dde Cymru mor bell, penderfynais aros dros nos yn y Bala. 'Roedd yn gyfleus iawn i mi wneud hyn, oherwydd trannoeth 'roeddwn hefyd wedi ennill cadair Eisteddfod Llangadog. Felly, yn hytrach na theithio'r holl ffordd i Gwm Tawe, ac yna gyrru yn ôl eilwaith i sir Gâr, amserais fy nhaith 'mod i'n aros yn Llangadog ar y ffordd yn ôl. Wedi cyrraedd fe ofynnais i bwyllgor yr eisteddfod honno ym mha gadair fyddwn yn eistedd ynddi yn ystod y seremoni. Ar ôl iddynt ddangos cadair blastig i mi, fe ddywedais ar unwaith bod gen i well cadair yn y car. Do, fe gefais fy nghadeirio yn yr un gadair ddwywaith, a honno, wrth gwrs, oedd cadair eisteddfod Llandderfel." Cefnfab yw enw barddol T. Grahame Williams sy'n dod o Gwm Tawe. Mae ennill cadair Eisteddfod Gadeiriol Llandderfel a mwy o'i hanes wedi ei nodi ar ei wefan, www.cefnfab.co.uk.
 |