"Dwi wedi bod yn gweithio yma ar Reilffordd Llyn Padarn ers i mi adael yr Ysgol Uwchradd - dwi wedi bod yma felly am 28 mlynedd.
Dechreuais lecio trenau wrth wylio Casey Jones ers talwm. Hefyd, roedd fy nhad yn gweithio ar y rheilffordd fel ffitar yn y chwarel, ac roedd yn yrrwr erbyn 1971.
I gychwyn, roeddwn ar yr injan efo'r dreifars a dwi 'di bod yn gyrru fy hun ers yr 1980au. Fy ngwaith ydy dreifio'r injan stêm, helpu i gynnal a chadw yr injan a llawer o bethau eraill.
Tair trên sydd ganddon ni fan hyn. Dwi'n gyrru Wild Aster, er mai Tomos Bach ydy ei enw rŵan ar ôl hen ddreifar y chwarel. Cafodd ei dynnu allan o syrfus yn y chwarel yn 1961.
Mae 'na ddwy injan arall - Elidir, ein injan hynaf, a gafodd ei hadeiladu yn Leeds yn 1889 a Dolbadarn, wedi'i henwi ar ôl y castell, sy'n 84 mlwydd oed.
Wrth edrych ar ôl yr injans, un o'r problemau heddiw ydy glo. Ers talwm, glo Cymreig roedden ni'n ei gael, ond o Wlad Pŵyl mae'n dod rŵan ac mae'r glo yma yn lot butrach. Felly mae'n rhaid ll'nau'r tiwbiau bob dydd efo brws tebyg i frws dannedd!

Bob deng mlynedd, mae'n rhaid tynnu'r trên i lawr. Mae'n rhaid testio'r boiler sy'n golygu stripio'r tanc a'r cab, codi'r boilar o'r chassey ac ella tynnu'r 28 o diwbiau allan, sy'n joban fudr iawn! 'Da ni i fod i dynnu dwy diwban o Tomos Bach y gaeaf yma, ond os ydy'r cyflwr yn dda, mi gawn ni gadw'r 26 arall i fewn, felly croesi bysedd!
Pan ddechreuais i heddiw roedd yn rhaid tynnu'r injan allan, ll'nau'r lludw allan, wedyn cynnau darn o wast efo matsien a llwytho'r glo. Wedyn, mi fydd 'na ddigon o stêm i symud yr injan a digon o dân i bara'r siwrne. Dim ond ar drên mawr mae angen dyn tân.
Mae injan stêm fel tegell ar olwynion. Mae'r glo yn cynhesu'r dŵr, sy'n creu'r stêm sy'n gwthio'r pistons nôl a mlaen ac felly mae'r injan yn symud.
Cyn cychwyn o Gilfach Ddu da ni'n llwytho rhyw saith neu wyth rhawiad o lo ar y tân ac yn llenwi'r tanc 200 galwyn, er mai dim ond ryw 70/80 galwyn y trip fyddwn ni'n ei ddefnyddio.
Dwi'n hoff iawn o dynnu lluniau wrth weithio. Dwi'n ceisio cael lluniau 'chydig yn wahanol i bawb arall ar y siwrne gan fy mod i'n gweld pethau'n wahanol o'r injan - dwi'n cael gwell dewis na neb o flaen y trên.
Dwi wedi rhoi calendr o luniau o'r ardal at ei gilydd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ac roedd o'n llwyddiant. Dwi wrthi'n hel lluniau o ogledd Cymru i greu un arall."