| "Gyrrwr trên ar Reilffordd Llyn Padarn, Llanberis, yw fy ngwaith i ac mae fy nhrên i, sef y Thomas Bach, yn 101 oed. Yn y gaeaf, mi fyddwn yn cynnal a chadw'r trenau eraill sydd ganddon ni. "Mae trên Dolbadarn yn 84 oed ac mae Elidir yn 116 oed ac wedi cael boiler newydd sbon - ar hyn o bryd mae'n cael ei phaentio gan saer y rheilffordd, Gareth, ac mi fydd pobl yn cael ei gweld hi am y tro cyntaf eleni adeg pen-blwydd trên yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, Una, sydd yn 100 oed ar 18 Mehefin. "Ym mis Gorffennaf, mi fyddaf wedi gweithio ar y rheilffordd ers 28 mlynedd yn llawn amser a phum mlynedd arall pam ro'n i yn yr ysgol uwchradd. "Mae'r swydd yn ddiddorol iawn ac mae pobl o bob rhan o Brydain a thramor yn dod ar y rheilffordd."
 |