BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Maes Gwyn a Phenillion Eraill
Penillion gan Elen Williams, neu Neli Maes Gwyn.

Maes Gwyn
(Maesgwyn, Carmel - cartref bore oes Elen Williams)

Yno y cerddais gyntaf
Yn rhydd ac ysgafn droed,
Dotio at liw y blodau
A sibrwd dail y coed.

Yno y teimlais gyntaf
Ofal fy nhad a mam,
Dechrau sylweddoli
Na chefais unrhyw gam.

Yno rhedais drwy'r caeau
Yng nghwmni Pero y ci,
Edrych ar dyfiant natur
Gwylio'r wylan a'i chri.

Yna daeth dyddiau ysgol
A theimlo newid byd,
Cyfarfod ffrindiau newydd
Cof amdanynt o hyd.

Yna daeth dydd ffarwelio
Teimlo yn drist a syn,
Perlau fy rhawd yw cofio
Dyddiau ieuenctid Maes Gwyn

Emyn ar gyfer plant

Ar ein gyrfa yn y byd
D'ofal Di a gawn o hyd,
Yn yr ysgol, nodda ni
Dysgwn dy glodfori Di.

Diolch am gartrefi clyd
Bwyd yn sicr gawn bob pryd
Tad a mam i'n gwarchod ni,
Diolch Arglwydd oll i Ti.

Am y blodau yn yr ardd
Am bob peth sy'n dlws a hard
Am gael clywed adar mân
Yn telori hyfryd gân.

Diolch i Ti Arglwydd da
Am ein cadw rhag pob pla,
Cofia blant sydd arnynt nam
Gwarchod hwy rhag unrhyw gam.

Cofia Gymru gwlad y gân
Cadw'n hiaith yn bur a glân,
Cadw'r Sul yn ddydd i Ti
Arwain ni i'th foli Di.

Stori cyhoeddi llyfr penillion gyntaf Neli Maes Gwyn.


Papurau Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy