
Stori Elen
Mi wnes i gychwyn sgwennu tra yn yr hen Ysgol Sir, Penygroes. Dwi'n cofio dad yn prynu llyfr o benillion Eifion Wyn i mi'n blentyn, a finnau'n eistedd yn ein bwthyn, Maes Gwyn, yn eu ddarllen a'i ddarllen nes i mi wybod pob un. Nid oedd fy nheulu yn sgwennu llawer, heblaw am fy modryb. Dwi'n sicr mai ganddi hi y ces i'r diddordeb mewn llenyddiaeth.
Roeddwn i yn ofnadwy o sâl ym mathemateg yn yr ysgol, ond roedd fy mrawd yn wych. Felly mi fydda fo yn gwneud fy ngwaith cartref màths i, a finnau'n gwneud ei waith Gymraeg! Ddaru o weithio am ychydig, tan i'r athro deall beth oedd yn mynd ymlaen!
Mi fuswn i wedi hoffi mynd i'r brifysgol i astudio Cymraeg, ond mi gollais fy nhad yn bymtheg mlwydd oed. Gan fy mod i efo dau frawd bach a hithau'n adeg rhyfel, roedd yn rhaid i mi adael yr ysgol a mynd i weithio i'r cyngor sir tan i mi briodi.
Mi fyddwn yn sgwennu i ddiddori pobl eraill mwy na fi fy hun; creu penillion at achlysuron fel priodasau neu bobl mewn profedigaeth.
Dwi'n holi fy hun yn aml sut y dwi'n sgwennu'r penillion, ond dwi ddim yn gwybod. Mae nhw jest yn dod i mi; weithiau gyda'r nos, ac mi wna'i godi'n fore i'w sgwennu nhw i lawr.
Fy mhleser mwyaf i oedd ennill y gadair mewn eisteddfod yr aelwyd, Caernarfon, pan roeddwn yn ugain. Dwi dal efo'r gadair fach hyd heddiw.
Ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn 85, roeddwn am fynd i ginio i dŷ un o fy merched. Doeddwn i methu dallt pam ein bod yn mynd heibio tŷ^ Eirwen yn gyntaf. Ond dyna ble roedd pawb, y teulu i gyd, a dyma Eirwen yn dod a llyfr i fi, a fi'n sbïo arno, a gweld llun o fwthyn Maes Gwyn. Doeddwn i ddim yn gwybod pryn ta crio neu chwerthin. Roeddwn wedi dychryn ac mor falch ohono; mi wnes i afael yn sownd ynddo trwy'r dydd.
Mae'r llyfr yn drysor i mi a dwi methu coelio fod cymaint wedi cael eu gwerthu. Dwi dalu i synnu ar yr holl waith ddaru Eirwen ei wneud i'w gyhoeddi.
Stori Eirwen
Roeddwn yn ymwybodol bod mam wedi bod yn sgwennu ar hyd y blynyddoedd, ond nid oeddwn yn cymryd llawer o sylw pan oeddwn i'n ifanc.
Ond un diwrnod, roeddwn yn busnesu yn yr Hendre, cartref dad a mam, ac mi ddos i ar draws bocs o domenni o farddoniaeth; rhai ar gefnau bocsys cornflakes, eraill ar gefn amlen.
Mi es i a nhw adref a gwario oriau yn eu rhoi mewn gwahanol gategorïau; geni plant, priodasau, er cof am bobl, penillion plant. Mae yna sawl emyn yna hefyd, a hoffwn ffeindio rywun i'w gosod i gerddoriaeth.
Yna mi ges i'r syniad o'i cyhoeddi mewn llyfr, tra bo hi dal yn fyw, a dyna be ddaru ni wneud.
Roedd yn anodd meddwl am deitl. Yn y diwedd, ddaru ni benderfynu mynd am Maes Gwyn, enw ei chartref pan oeddwn i'n ifanc. Mae mam dal i deimlo'n agos iawn at y tŷ a phentref Carmel. Neil Maes Gwyn yw enw barddol mam, hefyd.
Felly ar ôl teipio popeth i fyny a'u cywiro, mi wnes i gysylltu â Gwasg y Bwthyn a'i gyhoeddi! Roedd hi'n 85 ar Fawrth y cyntaf a dyna ei anrheg pen blwydd; roedd yn goblyn o sioc iddi! Ond mae hi wedi gwirioni. Ar ôl rhoi cymaint o bleser i eraill gyda'i phenillion, roedd yn gyfle iddi hi gael pleser ohonynt hefyd.
Mae llyfr Maes Gwyn a Phenillion Eraill ar gael gan Eirwen Hughes, ar 01286 675850.
Pennill ac emyn gan Neli Maes Gwyn.