BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dolgellau
Sean Connery, Julia Ormond ac eraill yn ffilmio First Knight.Gwynedd ar ffilm
Trawsfynydd fel tir y Brenin Arthur, Eryri fel yr Himalaya - mae sawl cyfarwyddwr wedi manteisio ar dirwedd Gwynedd i ail-greu byd arall mewn ffilm. Dyma Gwilym Hughes o Ddolgellau i ddweud mwy.

"Dwi yn y Guinness Book of Records am wylio'r nifer fwyaf o ffilmiau yn y byd. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ffilmiau a gafodd eu gwneud yng ngogledd Cymru.

Mae Gwynedd yn lle bendigedig i wneud ffilm ac mae rhai mawr wedi cael eu cynhyrchu yma, fel First Knight, gyda Sean Connery fel Brenin Arthur yn y 1990au (llun uchod).

Richard Gere mewn golygfa o First Knight Cafodd ei ffilmio yn Nhrawsfynydd, Beddgelert a Thalyllyn, lle adeiladwyd croes Geltaidd enfawr. Cafodd effaith mawr ar Ddolgellau; cymerodd nifer o bobl leol ran fel extras, ac roedd gweld Richard Gere fel Lancelot (llun ar y dde) yn cerdded y strydoedd yn ddiddorol!

Ond mae hanes ffilmio yma yn mynd yn ôl i gyfnod y ffilmiau distaw, fel Lloyd George a gafodd ei wneud yma yn 1918. Mam Alfred Hichcock ddaru actio rhan mam Lloyd George, a chafodd y rhan fwyaf ei ffilmio yng Nghricieth, lle gafodd y prif weinidog ei fagu, wrth gwrs.

Achubwyd y ffilm a chafodd ei ail-drin er mwyn gallu ei ddangos heddiw, ac mi es i'r premier yn Aberystwyth. Dyma'r tro cyntaf i mi weld ffilm ddistaw gydag organydd yn chwarae'n fyw! Roedd yn wych gweld y camera yn dod rownd y gornel a Chastell Cricieth yn y pendraw, heb lawer o dai o gwbwl. Gwahanol iawn i heddiw, sy'n ddefnyddiol iawn i haneswyr dwi'n siŵr.

Richard Burton yn Last Days of Dolwyn Un o'r ffilmiau pwysicaf a gafodd eu gwneud yng Ngwynedd oedd Last Days of Dolwyn gan Emlyn Williams. Mae pobl Dol yn dal i gofio Richard Burton yn cerdded y strydoedd a chafodd Dame Edith Evans gyngor ar sut i ynganu geiriau Cymraeg gan HR Jones. Bu i Richard Burton gyfarfod ei wraig gyntaf, Sybil, yma hefyd, gan ei bod hi'n extra yn y ffilm!

Mae'n ffilm ramantus iawn ac wedi dod yn cult erbyn hyn, gan ei bod yn ymwneud â boddi pentref; colli cymuned a chymdeithas. Ac i feddwl bod Tryweryn wedi digwydd rai blynyddoedd wedyn.

Mi ddaru nhw ddefnyddio Llyn Fyrnwy a phentref Rhydymain fel y prif leoliadau. Yn ôl y sôn, roedd Emlyn Williams wedi bod yn sgowtio dros 60 o bentrefi ledled Prydain i ffeindio'r lle perffaith i bortreadu Dolwyn. Pan welodd Rydymain, dywedodd mai dyna'r lle perffaith; dyna Ddolwyn.

Defnyddiwyd Tŷ'r Cloc ger neuadd y Nannau fel Clockhouse Plas Dolwyn. Roedd y tu fewn i Gapel Rhydymain yn rhy fach er mwyn ffilmio felly aethant i Gapel Llanfachreth.

Cafodd ei dangos fel premier ym Mangor, y sinema fawr agosaf, ac mi aeth bws llond o bobl yno i'w gweld. Ni chafodd ei dangos yn y Plaza yma yn Nolgellau tan 1950.

Mae'r ardal yma yn wych fel cefndir ffilm: mi fedrwch chi ei droi i mewn i unrhyw le yn y byd. Yn The Far Pavilion defnyddiwyd yr Wyddfa fel mynyddoedd India ac yn Carry on up the Khyber trowyd Eryri i mewn i'r Khyber Pass.

Mae hyd yn oed sôn rŵan bod seren Bollywood, sy'n byw yma yn Nolgellau, am wneud ffilmiau Bollywood yma hefyd!"

  • Ffilmio The Inn of the Sixth Happiness ym Meddgelert

  • Cyfrannwch

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Ffilmiau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy