BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Beddgelert
Ingrid BergmanO Nantmor i Hollywood
O ddrysu wrth ddysgu Saesneg i rannu paned efo Ingrid Bergman, dyma atgofion Gruffydd Wyn o fywyd yn Nantmor a Beddgelert dros y blynyddoedd.
"Yn Nantmor ges i fy magu a chymdeithas fach glos oedd yno yr adeg honno. Dwi'n cofio gwrando ar ddarlithoedd gan Carneddog a Llwyd o'r Bryn - roedden ni'n falch o gael eu 'nabod nhw. Mi fydden nhw'n sôn am bynciau cefn gwlad, hanes lleol a llenyddiaeth. Mi fyddwn yn mwynhau gwrando arnynt oherwydd mi ddysgais i fwy ganddyn nhw nag yn yr ysgol.

"Dwi'n cofio Llwyd o'r Bryn yn dod i Hafod y Llan am swper ac yn dal y lori laeth adref - roedd yn pasio ar ei ffordd i Lerpwl am dri o'r gloch y bore! Pwy a ŵyr pwy oedd yng Nghorwen am 4.30 y bore i'w bigo fo i fyny!

"Roedd y capel yn llawn ar ddydd Sul gyda phregeth yn y bore, y pnawn a dwywaith gyda'r nos. Byddai'n rhaid i ni gario cadeiriau o gapel yr Annibynwyr i gapel Peniel er mwyn i bawb gael set!

"Byddwn hefyd yn cael eisteddfod yn y capel, wastad ar Chwefror 28. Bues i'n cymryd rhan mewn partïon canu gyda Miss Huws Tan Rhiw, athrawes o Frynteg, yn arwain.

Dysgu Saesneg
Yn Nantmor es i i'r ysgol lle roedd Miss Lewis yn ein dysgu. Roedd yn rhaid cerdded dwy filltir i'w gyrraedd pob dydd.

"Dwi'n cofio bod yn saith neu wyth mlwydd oed a newydd gychwyn dysgu Saesneg yn yr ysgol. Roedd yn rhaid i mi sgwennu cant o linellau am nad oeddwn i'n deall y gwahaniaeth rhwng 'wood', 'would' a 'cloud'! Doedd o ddim yn gwneud sens i mi.

"Yna, ar y ffordd adref o'r ysgol un diwrnod dwi'n cofio un o'r milwyr o India oedd yn gwersylla gyda'u mulod ar y tir ger Nantmor adeg yr Ail Ryfel Byd yn gofyn cwestiwn i mi, a minnau'n ateb 'Yes, I am'. Gofynnodd eto, a minnau'n rhoi'r un ateb. Yn y diwedd, deallais ei fod yn gofyn 'How old are you'!

"Yna, am na wnes i basio'r scholarship i fynd i'r ysgol yn Port, mi es i'r ysgol fawr ym Meddgelert. Cafodd ei adeiladu yn 1911 ac mae'r ysgol gynradd yn yr un adeilad rŵan. Mae geni gof o wneud ffyn yn y gwersi gwaith coed efo Mr Roberts.

"Ar ôl yr ysgol, es adref i weithio ar y fferm. Cymerais ddiddordeb mawr mewn gwartheg duon Cymreig - mi gychwynnais y gyrr cyntaf o wartheg duon gyntaf yn yr ardal gyda Buches Gelert fel y foundation cow.

Hollywood ym Meddgelert
"Dwi'n byw ym Meddgelert ers y 60au. Daethom yma i fyw yn y tŷ capel i edrych ar ôl y capel a'r festri, ond erbyn hyn mae'r capel wedi mynd a'r festri yn dŷ ac mae'r pentref yn hanner gwag yn y gaeaf. Does yna ddim digon o swyddi yma. Mi roeddwn i'n lwcus, yn cael job ar y fferm adra, yna mynd yn fugail a thrin gwartheg, dreifio loris blawd ac i werthu bara ym Mhenrhyndeudraeth. Yna, rhyw fore Sul, mi wnes i daro ar un o fysus y Goedwigaeth ym Meddgelert - cefais gynnig waith yr wythnos honno, a dyna lle roeddwn am 25 mlynedd yn torri coed.

"Mi ges i waith hefyd pan ddaethant yma i ffilmio The Inn of the Sixth Happiness - gan adeiladu wal fawr China yn y caeau ger Nantmor! Dwi'n eu cofio nhw'n mynd i ffilmio lawr yn Aberglaslyn, ac wrth groesi'r afon beth ganodd ond y gog! Wel, does 'na ddim cog yn China, felly roedd yn rhaid ailgychwyn!

"Mi ges i goffi efo Ingrid Bergman. Roedd mewn carafán ym mhell oddi wrth bawb arall pan nad oeddent yn ffilmio ond mi ddywedodd y boi oedd yn gyrru'r jeep wrtha i am ddod draw am baned - ac roedd yn neis iawn!

"Dwi yn mwynhau byw yma ym Meddgelert - mae'n lle braf i ddod am dro. Mae 'na ddigon o ymwelwyr yn dod i weld y ci. Dwi wedi gweld plant a sawl oedolyn yn crïo dros y stori! Byddai'r Americanwyr yn dod i'r Goat a'r perchennog yn mynd â nhw i lawr at y bedd a hwythau yn ei gredu i gyd hefyd! Wel, mi oedd yna Dywysog Llewelyn, felly 'falle ei fod yn wir..."

Os oes ganddoch chi luniau neu atgofion am ffilmio The Inn of the Sixth Happiness yn ardal Beddgelert gadewch inni wybod.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy