Pob tair blynedd, mae criw ifanc o Grynwyr o ogledd Cymru yn mynd draw i le o'r enw Gwyned ym Mhennsylvania, ac mae criw o'r America yn dod yn ôl yma hefyd. Byddant yn dilyn taith y Crynwyr - eu cyndadau - o amgylch yr ardal. Mae taflan yn y Ganolfan Groeso i'ch tywys o amgylch llefydd sydd â'r golygfeydd mwyaf bendigedig.
Rydych yn cychwyn yn y Ganolfan Groeso, gan ymweld ag amgueddfa'r Crynwyr sydd uwch ben. Yna, ewch i fyny am Frynmawr, hen gartref Rowland Elis a heibio Dewisbren Uchaf lle'r oedd Dotti Owen yn byw yn y 18fed ganrif. Cerddodd hi i Lundain o leiaf ddwywaith am gyfarfod blynyddol y Crynwyr a hi hefyd ddaru drefnu'r cwrdd yn yr adeilad sydd bellach yn Gapel Tabor. Yna, draw heibio Tyddyn y Garreg, hen le cyfarfod blynyddol i Grynwyr Cymru gyfan, a'r fynwent ger llaw. Nid oedd y Crynwyr yn cael eu claddu ym mynwent yr Eglwys. Yna i lawr am Ddolgun Uchaf, hen neuadd ganoloesol, ac ymlaen i'r ffwrnais gafodd ei adeiladu gan Abraham Darby ar gyfer y diwydiant haearn. Yna yn ôl i Ddolgellau ac ymlaen i Lwyngwril ger y môr.
Mae'r Americanwyr yn falch iawn o weld y llefydd lle'r oedd eu teuluoedd yn byw ac yn addoli; y llefydd bendigedig roeddent wedi ymadael â nhw er mwyn gallu addoli yn eu ffordd eu hunain ac yn eu hiaith eu hunain. Mae yna nifer wedi ail-ddysgu'r Gymraeg hefyd, ac yn falch i glywed ei bod yn dal yn cael ei defnyddio yma yng Nghymru. Nôl i hanes Crynwyr Dolgellau gan Catherine James.
 |