Y Sais George Fox ddaru gychwyn symudiad y Crynwyr. Anfonodd Morgan Llwyd John ap John o Ddolgellau i ddarganfod mwy am ei feddylfryd a daeth John yn ôl yn credu'n fawr ym mhregethau Fox. Aeth o amgylch Cymru gyda fo yn lledaenu'r neges, gan nad oedd Fox yn siarad Gymraeg.
Mi ddaru Fox gadw dyddiadur o'i siwrne, er nad yw'n rhestru pobman iddynt ymweld - 'a town' mae'n ei nodi fel arfer! Ond mae'n sôn am orfod dringo mynydd milltir o uchder (dydy'r Gader ddim, wrth gwrs), ac ar y top edrychodd o'i gwmpas, a chafodd weledigaeth fod llawer iawn o'r bobl leol am droi at y Crynwyr, ac felly y bu.
Daethant i lawr i Ddolgellau a chael derbyniad arbennig o dda i'r gred newydd; sef nad oedd angen offeiriad rhyngoch chi a Duw, a bod posib cael at Dduw yn uniongyrchol heb fynd trwy'r eglwys fel sefydliad. Hefyd, dywedodd bod goleuni Duw ym mhob un ohonom, a rhaid i ni i gyd ymateb i oleuni Duw ym mhawb rydym yn eu cyfarfod. Nid oedd yn gwadu bod yna ddrwg mewn pobl - roedd rhaid lleihau'r drwg, a gwneud y da yn fwy.
Byddai'r Crynwyr yn cyfarfod naill ai yn nhai ei gilydd, fel yn Nolserau neu Frynmawr, neu y tu allan, i gyfarfod o dan y coed.
Un a ddaeth â hanes y Crynwyr yn Nolgellau yn fyw oedd yr awdures Marion Eames a gyhoeddodd ddwy nofel yn ymwneud a'u herledigaeth a'u mudo i'r Unol Daleithiau, Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn.
Bu farw yn 2007.
Ond roedd yna erlid ffyrnig yn erbyn y Crynwyr. Heddychwyr oeddent ac nid oeddent yn gwneud dim drwg i neb. Ond rhan o'r drafferth oedd nad oeddent yn credu mewn tyngu llw oherwydd bod y Beibl yn gwahardd hynny - problem mewn cyfnod mor gythryblus pan roedd angen dangos parch i'r brenin.
Hefyd, byddent yn torri ar draws ambell i wasanaeth eglwys gan nad oeddent yn credu yn hierarchiaeth y sefydliad, ac felly roeddent mewn trafferthion byth a hefyd.
Cafodd nifer eu gorfodi i gerdded o Ddolgellau i'r Bala mewn cadwynau i sefyll o flaen eu gwell. Rhoddwyd dedfryd i losgi'r merched a chrogi'r dynion, ond anfonwyd neges i Lundain mewn pryd a newidiwyd y ddedfryd yma. Cafodd eraill eu lluchio i mewn i'r carchar, weithiau am flynyddoedd mewn sefyllfa anhygoel o sâl. Byddai rhai eraill yn cael dirwy, yn aml colli gwartheg, sef colli bywoliaeth i ffarmwr. Roedd felly yn gymhelliad iddynt adael am America i wneud bywoliaeth.
Yn y pendraw, aeth llawer o'r arweinwyr draw i Pennsylvania gan fod yna ryddid ysbrydol a thir da i ffermio. Aeth Rowland Elis Bryn Mawr allan yn 1686 a sefydlwyd Prifysgol Brynmawr ar ei dir yn hwyrach, sy'n flaenllaw yn y wlad erbyn hyn. Aeth Elis Puw allan efo fo. Ef sgwennodd y llyfr cyntaf yn y Gymraeg i gael ei gyhoeddi yn America.
Gorffennodd yr erlid, ond dwi'n meddwl mai dyfodiad y Methodistiaid yn y 19eg ganrif ddaru gymryd pawb oedd yn weddill, nad oedd am droi at yr eglwys. Felly roedd y Crynwyr bron wedi diflannu, er bod yna eto gyfarfodydd yn Nolgellau, y Bala a Machynlleth erbyn hyn. Rydym yn dal i gyfarfod yn nhai ein gilydd, neu mewn neuaddau cymunedol.
Er bod yna henaduriaid yn trefnu'r cwrdd, nid oes yna wir arweiniad; gall unrhyw un godi a chanu neu siarad yn ôl arweiniad Duw.
Dewch ar daith y Crynwyr...