 |
 |  |  1. Un tro, amser maith yn ôl roedd tywysoges hardd o'r enw Dwynwen. |  |  2. Roedd hi'n ferch i'r brenin Brychan Brycheiniog a oedd wedi trefnu iddi briodi tywysog pwysig. |  |  |  3. Ond, roedd Dwynwen mewn cariad dros ei phen â'i chlustiau efo tywysog arall o'r enw Maelon Dafodrill. |  |  |  |  4. Felly, aeth at ei thad i ddweud wrtho nad oedd hi eisiau priodi'r tywysog roedd o wedi ei ddewis. |  |  5. "Does dim ots gen i," meddai ei thad, "mae'n rhaid iti briodi'r tywysog rydw i wedi ei ddewis!" |  |  |  6. Rhedodd Dwynwen at Maelon yn crïo, a dywedodd: "Mae'n rhaid i mi briodi tywysog arall!" |  |  |  |  7. Pan glywodd Maelon hyn, gwylltiodd yn gacwn a dweud wrthi nad oedd byth eisiau ei gweld hi eto. |  |  8. Torrodd Dwynwen ei chalon yn llwyr. Roedd hi mor drist, aeth i fyw ar ei phen ei hun mewn coedwig. |  |  |  9. Yn y goedwig, roedd hi'n unig ac yn ddigalon. Gweddïodd ar Dduw i'w gwella hi o'i chariad at Maelon |  |  |  |  10. Yna, un noson tra roedd hi'n cysgu, daeth angel at Dwynwen a rhoi diod arbennig iddi i'w gwella. |  |  11. Dechreuodd Dwynwen freuddwydio. Yn y freuddwyd, mi welodd hi'r angel yn rhoi diod i Maelon hefyd a chafodd ei droi yn dalp o rew. |  |  |  12. Yna, cafodd Dwynwen dri dymuniad: dadmer Maelon, gwneud cariadon Cymru yn hapus a gwneud yn siŵr na fyddai hi byth eisiau priodi. |  |  |  |  13. Daeth y tri dymuniad yn wir a phenderfynodd Dwynwen gysegru ei bywyd i wasanaethu Duw ac edrych ar ôl cariadon Cymru. |  |  14. Sefydlodd eglwys ar ynys wrth ymyl Niwbwrch, sy'n cael ei galw heddiw yn Ynys Llanddwyn a daeth yn nawddsant cariadon. |  |  |  15. Heddiw, mae cariadon yng Nghymru yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen ar Ionawr 25, ac yn gyrru cardiau serch i'w gilydd. |  |  |  |
| |
|