Cliciwch ar wefan Cymdeithas Criced Cymru i gael rhestr lawn o glybiau criced yr ardal (dolen ar y dde).Mae Cymdeithas Criced Rhanbarthol Gogledd Cymru yn trefnu cystadlaethau ar lefel sirol yn y gogledd. Mae ffiniau'r siroedd yn dilyn hen ffiniau Meirionnydd, Caernarfon, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn.
Mae'r gymdeithas yn cynnal cystadlaethau i chwaraewyr hŷn a chwaraewyr dan 19 oed rhwng mis Mai a mis Awst bob blwyddyn.
Mike Short o Fae Colwyn sy'n dweud wrthon ni am chwarae criced ar lefel clwb yn yr ardal.
"Mae chwech adran yng Nghynghrair Criced Gogledd Cymru ar gyfer 38 o glybiau'r ardal, ac mae'r gemau i gyd yn cael eu chwarae ar ddydd Sadwrn. Mae dau dîm yn cael dyrchafiad neu ddiraddiad ar ddiwedd y tymor (rhwng Ebrill a Medi). Mae tlysau yn cael eu rhoi bob blwyddyn i'r batiwr, bowliwr a'r wicedwr gorau.
"Mae gwybodaeth am gemau, canlyniadau a mwy ar ein gwefan, North Wales Cricket." (gweler y ddolen ar y dde).
Dyma ganllaw John Huband o Landrillo-yn-rhos, swyddog datblygu chwaraeon gyda Chyngor Conwy:
"Ym maes criced iau, mae'r gogledd orllewin yn dod o fewn ardal Eryri, sy'n ymestyn o Abergele i Ynys Môn, ac o Fangor i lawr i Dywyn.
"Mae tri chynghrair i fechgyn - dan 11, 13 a 15 oed. Bydd pob clwb unigol yn cynnal ei sesiynau ymarfer ei hun i chwaraewyr ifanc.
"Mae chwaraewyr yn cael eu dewis o'r tri chynghrair yma i gynrychioli Eryri mewn cystadleuaeth yn erbyn saith ardal arall Cymru.
"Mae canolfan ragoriaeth yng Nghanolfan Hamdden Towyn hefyd sy'n cynnal sesiynau hyfforddi drwy'r gaeaf i chwaraewyr sy'n dangos gallu arbennig, gyda chyfle iddyn nhw chwarae dros Gymru. Mae mwy o fechgyn y gogledd nag erioed o'r blaen yn cyrraedd tîm Cymru rŵan.
"Mae cyfleoedd ar gyfer criced merched ychydig yn wan ar hyn o bryd ond mae'n gwella drwy'r amser. Mae cyfle i ferched chwarae criced clwb yng Nghaergybi, Conwy a Phrestatyn ac mae camau ar y gweill i drefnu timau rhanbarthol drwy Gymru.
"Mae'r cynnydd mewn criced clwb i chwaraewyr iau wedi annog adfywiad mewn criced ysgolion ac mae llawer o ysgolion cynradd yn dod i gysylltiad â'u clybiau lleol i gael hyfforddiant."