Cyn gapten a batiwr tîm criced Morgannwg
Mae cyfraniad Matthew Maynard i dim Criced Morgannwg wedi bod yn un sylweddol dros y blynyddoedd ac yn allweddol mewn sawl buddugoliaeth.
Yn ystod ei blentyndod yn y Borth, roedd ganddo dalent amlwg mewn chwaraeon ac yn arbennig mewn Criced. Fe fu'n chwarae i dîm yr ysgol, ac i dîm gogledd Cymru yn erbyn Barbados cyn symud i'r de i chwarae'n broffesiynol.
Yn fuan iawn, fe wnaeth ei farc ar y gêm broffesiynol hefyd yn 1985 gan sgorio ei 100 cyntaf i Forgannwg yn erbyn Swydd Efrog gan daro tri chwech yn olynol heibio bowliwr Lloegr Phil Carrick. Ers hynny, mae Mathew wedi cyfareddu gwylwyr Morgannwg a Chymru gyda'i fatio crefftus gan dorri sawl record hefyd!
Yn 1986, fo oedd yr ieuengaf i sgorio mil o rediadau i Forgannwg a blwyddyn yn ddiweddarach llwyddodd i redeg 100 cyn amser cinio yn erbyn Gwlad yr Hâf. Bu cyfraniad Viv Richards yn 1990 yn hwb iddo fo a'r tîm a llwyddodd i gyrraedd sgôr o 243 mewn gêm yn erbyn Swydd Hampshire. Ar ôl treulio dwy flynedd yn chwarae i dimau yn Seland Newydd, dychwelodd Maynard i Forgannwg yn 1993 gan eu cynorthwyo i ennill y Sunday League.
Bellach yn gapten ar ei glwb, arweiniodd Maynard dîm Morgannwg i ennill y bencampwriaeth yn 1997 a chwpan Benson a Hedges yn Lords yn 2000.
Fe chwaraeodd dros Loegr am y tro cyntaf fis Awst 1988 yn erbyn Indiaid y Gorllewin yn yr Ofal ac er mai ychydig o rediadau a gafodd, fe'i dewiswyd yn chwaraewr ifanc y flwyddyn y flwyddyn honno. Aeth ar daith i Dde Affrica gyda thîm Mike Gatting yn 1990 a chymryd rhan yng nghyfres y Lludw yn 1992.
Yn 2005, cyhoeddodd ei fod yn ymddeol o'r gêm ar ddiwedd y tymor.
Ystadegau
Prawf cyntaf: Lloegr yn erbyn India'r Gorllewin, yr Ofal 1988
Cyfartaledd batio: 43.06