| 24. Croeswch y ffordd lle mae'r cwrs golff yn dechrau ac edrychwch ar draws y maes golff. Mae'r CLWB GOLFF yn dyddio o 1899, ond mae ei wir enwogrwydd yn deillio o'r ffaith mai yma oedd GLANIAD YR AWYREN GYNTAF I LANIO YNG NGOGLEDD CYMRU (24). Glaniodd yr awyren, sef awyren ddwbl Farmer Racer, ar gwrs golff Llandrillo yn Rhos prin ganllath o adeilad y clwb ei hunan (trwy ddamwain o bosib) ar Awst 10fed, 1910, gan beri cryn syndod a phleser i'r bobl leol. Arloeswr awyrennau o'r enw Robert Lorraine oedd y peilot. Cychwynnodd ei daith yn sioe awyr Blackpool gan fwriadu sefydlu dwy record - y daith awyr hiraf dros y môr (63 o filltiroedd), a'r awyren gyntaf i lanio yng Nghymru. Bwriadai lanio yng Nghaergybi, a cheisio croesi Môr Iwerddon, ond gorfodwyd iddo lanio yma gan y tywydd gwael, gan roddi Llandrillo yn Rhos yn y llyfrau hanes.
25. Trowch yn ôl am y Rhos, gan sylwi ar y tŷ sydd ar y dde i chi o'r enw ODSTONE. Tŷ preifat yw hwn. Yn yr ardd ffrynt y mae CEI MADOG (25). Roedd y nant y gallwch ei gweld ar y cwrs golff yn afon ddigon mawr i'w mordwyo ers talwm, y mae'n debyg yr oedd harbwr arni, a thybir bod yr ardd gerrig yn yr ardd wedi ei gwneud o olion yr hen gei. Dywedir bod y Tywysog Madog wedi hwylio oddi yma gyda dwy long ym 1170 gan ddarganfod America 322 o flynyddoedd cyn Columbus! Dywed y traddodiad iddo ddychwelyd rai blynyddoedd yn ddiweddarach gan ddweud ei fod wedi darganfod gwlad newydd. Yna fe gasglodd lynges o 10 o longau ynghyd yn llawn gwladychwyr, ac ni welwyd mohono fyth wedyn. Er nad oes modd profi'r chwedl, mae carreg goffa yn Alabama yn nodi'r fan lle honnir iddo ymsefydlu. Mae plac yn yr ardd (nid yw ar agor i'r cyhoedd, ac nid yw'n weladwy o'r ffordd) sy'n dweud 'Hwyliodd y Tywysog Madog o'r fan hon Aber-Kerric-Gwynan 1170 AD a glaniodd ym Mobile, Alabama gyda'i longau Gorn Gwynant a Phedr Sant.'
Go brin y bydd neb byth yn gallu profi a yw'r chwedl yn wir ai peidio, ond mae'n anhygoel meddwl y gallasai'r lle hwn fod yn dyst i ddigwyddiadau mor unigryw yn hanes Cymru - mordwywr arloesol a ddarganfu America a pheilot arloesol a laniodd yr awyren gyntaf yng Nghymru.
26. Ewch yn eich blaen ar hyd y pafin nes dewch chi at HEN GÂT Y GYLLIDEB, 147 MARINE DRIVE (26). Ym 1909 cyflwynodd Lloyd George Gyllideb y Bobl a roes gychwyn ar bensiynau i'r henoed, ond a oedd hefyd yn cynnwys treth ar werthoedd tir i helpu i dalu amdanynt. Bu llawer o anfodlonrwydd ynghylch hyn ymhlith perchnogion tir ar draws y Deyrnas Unedig ac fe wnaeth Mr Horton, a oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o'r tir yn Llandrillo yn Rhos bryd hynny, osod tollborth yma ar y Promenâd fel protest, a'i alw'n Dollborth y Gyllideb - a dyna sut y cafodd y tŷ ei enwi. Gwerthodd y ffordd a'r tollborth i'r Cwmni Tramiau ym 1911 pan agorwyd y llwybr tramiau newydd. Fodd bynnag, daliodd y Cwmni Tramiau i godi tollau ar geir a ddefnyddiai'r ffordd nes iddynt fynd yn fethdalwyr ym 1961. Ni chafodd y tollborth ei ddileu tan 1963 pan brynodd y Cyngor y ffordd a rhoi wyneb iawn arni am y tro cyntaf. Codwyd swllt (5c) ar geir (a cheiniog ar goetsis bach) ar adeg ei chau.
Ewch yn eich blaen ar hyd Marine Drive. Ar ôl croesi Ffordd yr Abaty edrychwch i'r dde i chi weld golygfa hyfryd o Eglwys Plwy Llandrillo a Bryn Euryn, y buodd chi'n ymweld â nhw eisoes. O'r fan yma gallwch werthfawrogi pa mor amlwg yr oedd yr eglwys wyngalchog i filwyr mewn canrifoedd blaenorol. Ewch yn eich blaen ar hyd Marine Drive nes dewch chi at y man cychwyn unwaith eto yng Nghapel Sant Trillo. Yn union cyn hynny sylwch ar y ddau dŷ difyr ar bob ochr i College Avenue - Cartref Nyrsio San Mihangel a The Breakers. Fe'u codwyd yn y 1930au a'r pryd hynny ystyriwyd nhw'n enghreifftiau beiddgar o'r Mudiad Modernaidd. Mae eu dyluniad yn hynod ond nid oedd y toeau gwastad yn ymarferol iawn.
Dyma ddiwedd y daith! Rydych chi'n haeddu seibiant felly beth am i chi fynd yn eich blaen i Landrillo yn Rhos am baned o de yn un o'r caffis braf sydd yno os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes. Nôl i ddechrau'r daith a'r oriel luniau
 |