BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cerdded
Beiciwr yn Llandrillo yn RhosLlwybr Treftadaeth Llandrillo yn Rhos
Mwynhewch daith gerdded sy'n eich arwain ar lwybr drwy hanes difyr Llandrillo yn Rhos, wedi ei ysgrifennu gan Ian Reid. Mae hefyd ar gael fel taflen gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae'r daith yma'n mynd â chi ar daith a amgylch pentref deniadol Llandrillo yn Rhos a'ch cyflwyno chi i'w dreftadaeth hynod gyfoethog. Mae gan Landrillo yn Rhos gysylltiadau cryfion gydag amrywiaeth helaeth o gyfnodau hanesyddol a digwyddiadau o oes y Rhufeiniaid ymlaen, gan gynnwys oes y Seintiau Celtaidd, y Canol Oesoedd, oes Elisabeth a hyd y dydd heddiw. Defnyddiwch y llwybr hwn i ddarganfod yr adeiladau a'r safleoedd hanesyddol diddorol a dysgu am y bobl ddiddorol sy'n gysylltiedig â nhw.

Craidd y llwybr yw taith gerdded o ryw awr o hyd sydd wedi ei seilio ar y promenâd. Mae tri estyniad dewisol wedi eu hychwanegu i'r rhai yn eich plith sydd â mwy o amser ac egni. Mae'r llwybr cyfan, gan gynnwys y daith gerdded hyfryd i fryngar Bryn Euryn, (sy'n werth ei mentro am y golygfeydd godidog yn unig) yn cymryd rhwng tair awr a thair awr a hanner. Gan fod y llwybr yn gylchog, gallwch ymuno ag ef lle bynnag y mynnwch chi.

Mae nifer o gaffis a siopau te rhagorol yng nghanol Llandrillo yn Rhos, ac fe aiff â'r daith â chi heibio i dair tafarn, lle gallwch archebu bwyd, felly mae digon o gyfle i orffwys a bwyta. Fe ewch chi heibio i nifer o feinciau hefyd fel y gallwch chi fynd wrth eich pwysau a gorffwys fel y mynnwch chi a mwynhau'r daith!

Mae llefydd parcio i'w cael ar hyd y rhan fwyaf o'r promenâd. Mae dau faes parcio hefyd (wedi eu marcio â P ar y map). Os byddwch yn defnyddio un o'r rhain dechreuwch y daith wrth y rhif agosaf ar y map.

  • Dechreuwch y daith
  • Edrychwch ar olygfeydd y daith

    Map o'r daith


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy