BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cerdded
Llwybr Treftadaeth Llandrillo yn Rhos 1 - 2
1. Dechreuwch yng NGHAPEL SANT TRILLO (1). Credir mai'r adeilad hynod hwn yw'r eglwys leiaf yn Ynysoedd Prydain, gan mai lle i chwech o bobl sydd ynddi i gyd. Mae wedi ei henwi ar ôl Sant Trillo, sant Celtaidd o'r 6ed ganrif a gododd gell yma. Ni wyddys beth yw oed yr adeilad presennol, gan ei fod wedi ei atgyweirio'n helaeth tros y canrifoedd. Mae'n debyg mai o blethwaith a phren y gwnaed y gell wreiddiol, ac efallai iddo godi wal o gerrig a gasglwyd ô'r traeth i'w hamddiffyn rhag y gwynt.

Ewch i mewn i'r capel os yw ar agor. Saif ar safle ffynnon hynafol. Yma y câi Trillo ei ddŵr yfed, a buasai'n ysgogiad iddo ddewis y safle hwn. Gallwch weld y ffynnon o hyd o flaen yr allor. Am ganrifoedd lawer defnyddiwyd dŵr y ffynnon i fedyddio babanod o bob cwr o blwy canoloesol helaeth Llandrillo.

Yn ogystal â hyn, yn yr hen amser roedd i'r ffynnon draddodiad o fedru iacháu pobl. Cynhelir gwasanaethau cymun yn rheolaidd yn yr eglwys o hyd - mae'n anhygoel meddwl eich bod chi'n sefyll ar safle a fu'n ganolfan addoli i Gristnogion am ryw 1500 o flynyddoedd!

Fel rheol byddai'r mynachod Celtaidd yn codi magwyrydd o amgylch eu celloedd fel y medrent amaethu i'w bwydo eu hunain. Gelwid hwn yn Llan. Dyma sut y cafodd Llandrillo yn Rhos ei enw. Golyga rhos yr un peth â chors ac felly'r ystyr yw Llan Sant Trillo ger y gors. Roedd yr ardal o amgylch yn gorsog achos ynys ydoedd yn wreiddiol a ffurfiwyd gan ddwy gangen o'r afon leol.

2. O adael y capel dilynwch y llwybr troed ar hyd y morglawdd i gyfeiriad canol Rhos. Edrychwch yn fanwl ar y traeth i'r chwith i chi. Pan fo'r llanw'n isel gallwch weld olion sylfeini CORED BYSGOTA RHOS FYNACH sy'n dyddio o'r canol oesoedd, (2) un o blith llawer o'i bath a arferai fod yn niferus ar hyd arfordir Cymru. Arferai fod dwy gored bysgota yn Llandrillo yn Rhos. Roeddynt ar ffurf magwyrydd mawr siâp V wedi ei wneud o wiail. Pan fyddai'r llanw'n uchel byddai'r pysgod yn nofio i mewn iddynt, a chael eu dal mewn pwll pan fyddai'r llanw'n mynd allan. Roedd coredau o'r fath mor effeithiol nes iddynt beryglu'r stoc bysgod erbyn oes Fictoria, yn enwedig yr eog. Felly ym 1861 pasiodd y Senedd ddeddf yn gorchymyn eu dinistrio. O ganlyniad cafodd y gored arall yn Llandrillo yn Rhos ei dileu.

Fodd bynnag roedd eithriad i'r gyfraith newydd pe gallai'r perchennog brofi bod ei gored yn bod cyn y Magna Carta (h.y. 1215 AD). Medrai perchennog cored Rhos Fynach brofi ei gwreiddiau canoloesol gan fodloni'r comisiynwyr, ac o'r herwydd ni chafodd ei dinistrio - sy'n brawf pellach o hynafiaeth pentref Llandrillo yn Rhos. Roedd y gored yn hynod effeithiol a gellid dal llwythi o bysgod yno. Er enghraifft, ym 1850 dalwyd 35,000 o benwaig mewn noson! Daliwyd siarc 8 troedfedd yn y gored ym 1865, a'i arddangos ym marchnad Llandudno. Dro arall (ym 1907) daliwyd 10 tunnell o fecryll ar un llanw. Bu perchennog diwethaf y gored, John Parry Evans, yn hyfforddi daeargwn i godi eogiaid o'r gored. Gymaint yr edmygid y ci cyntaf iddo ei hyfforddi nes iddo ennill coler arian a mynd yn atyniad twristaidd poblogaidd. Yn anffodus bu farw ym 1873 ar ôl cael ei anafu'n ddifrifol gan siarc arall a ddaliwyd yn y gored! Aeth y gored yn anarferedig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe gollwyd ei stanciau am eu bod yn beryglus i gychod.

  • Ymlaen â'r daith ...


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Ffilmiau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy