| 3. Ewch yn eich blaen nes i chi gyrraedd yr hanner cylch o siopau ar y ffrynt. Yma arferai'r pier sefyll ac adeilad bach crwn yr amgueddfa oedd SWYDDFA DOCYNNAU'R PIER (3). Bu gan Landrillo yn Rhos bier sylweddol ar un adeg tua 1,500 o droedfeddi o hyd (a brynwyd yn ail law o Douglas yn Ynys Manaw ym 1895!) Bu cwmni Colwyn Bay & Liverpool Steamship Co yn cynnal gwasanaeth rheolaidd i deithwyr am flynyddoedd rhwng Lerpwl a Chaergybi gan ddefnyddio'r pier hwn i adael teithwyr ar gyfer Llandrillo yn Rhos a Bae Colwyn. Ym 1908 suddodd stemar o'r enw Rhos Neigr wrth geisio docio wrth y pier i gasglu 75 o deithwyr.
4. Gallwch weld peth o OLION Y STEMAR (4) pan fydd y llanw'n isel ychydig gannoedd o lathenni allan i gyfeiriad y môr ac i'r chwith i'r pier gwreiddiol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd tynnodd y Fyddin Gartref lawer o blanciau'r pier i ffwrdd, fel y byddai unrhyw filwyr Almaenig a fyddai'n ceisio defnyddio'r pier i lanio yn syrthio trwy'r tyllau.
5. Ar yr ochr arall i'r ffordd (i'r chwith i'r gyffordd â Ffordd Abaty) fe welwch chi dafarn a thŷ bwyta RHOS FYNACH (5). Darganfuwyd chwe darn arian Rhufeinig sy'n dyddio o oes Cystennin Fawr mewn hen ddraen gerrig yn yr ardd yma, ac felly mae'n bosib bod gan y safle hynafol hwn gysylltiadau â'r oes Rufeinig. Yn y canol oesoedd credir y safai tŷ ar y safle hwn a berthynai i'r mynachdy Sisteraidd mawr ym Maenan yn Nyffryn Conwy a adwaenid fel Abaty Aberconwy. Os felly, byddai'r mynachod a oedd yn gyfrifol am gasglu pysgod o'r gored hynafol yr ydym newydd fynd heibio iddo wedi ei ddefnyddio fel lle i aros dros nos. (Mae traddodiad bod mynach mewn gwisg frown a chlogyn gwyn i'w weld o hyd yn yr adeiladau!) Mae siarter gan Lywelyn Fawr dyddiedig 1230 yn nodi bod holl hawliau tir 'Ros Veneych' wedi eu prynu gan ei brif gynghorydd, Ednyfed Fychan, ar yr amod ei fod yn talu rhent o 2 swllt y flwyddyn (10c yn arian heddiw) i dalu am lampau eglwys y plwy dros y Pasg. Roedd Ednyfed yn ffigwr pwysig yn hanes Cymru. Roedd yn berchen ar faenordy wrth droed Bryn Euryn, y bryn y tu cefn i Landrillo yn Rhos. Mae' n hysbys hefyd yn ôl siarter bod Rhos Fynach, ynghyd â'i thiroedd a'i hawliau pysgota (h.y. y gored yr ydym newydd fynd heibio iddi), wedi eu rhoddi i'r Capten Henry Morgan ym 1575 gan Iarll Caerlŷr am 6 cheiniog! Fe'u rhoddwyd ar y telerau ffafriol hyn "er cydnabod y gwasanaethau a roes ef ar y môr rhag gelynion y Frenhines." Mewn geiriau eraill roedd y Capten Morgan yn fordwywr yn nhraddodiad Drake, herwlongwr na phoenai a oedd Lloegr mewn rhyfel yn erbyn y llongau yr ymosodai arnynt neu beidio. Yn anffodus nid dyma'r Capten Morgan hwnnw, y môr-leidr hynod (yr hwn yr enwyd y rym enwog ar ei ôl), er gwaetha'r sibrydion sy'n mynnu fel arall. Ymlaen â'r daith ...
 |