BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cerdded
Llwybr Treftadaeth Llandrillo yn Rhos 6 - 9
6. Ewch yn eich blaen ar hyd y promenâd. Adeiladwyd yr harbwr bychan sydd ar y chwith yn gymharol ddiweddar pan godwyd y morglawdd i atal llifogydd yn y tai ar y ffrynt. Ewch yn eich blaen i'r CAYLEY ARMS (6). Edrychwch ar yr arwydd y tu allan i'r dafarn. Mae peth camargraff i'w gael yma gan ei fod yn dangos balŵn ehedwr. Er hynny mae cysylltiad gwirioneddol rhwng Llandrillo yn Rhos a datblygiad hedfan yn fyd eang. Roedd y Cayleys yn berchnogion tir mawr yn lleol a gwelir ôl eu dylanwad yn llawer o'r enwau strydoedd lleol, gan gynnwys promenâd Cayley (a'i fanc gwyrdd deniadol) sydd ar y chwith i chi. Mae'r arwydd ar y dafarn yn coffáu un o'u hynafiaid, Syr George Cayley o Brompton ger Sawley yn Swydd Efrog, dyfeisiwr o fri y gellid dadlau mai ef oedd gwir arloeswr hedfan. Darganfu egwyddorion allweddol eronoteg a'i galluogodd i ddylunio peiriant hedfan ymarferol 50 mlynedd o flaen y brodyr Wright. Ym 1853 bu i Syr George adeiladu peiriant a allai gludo pwysau dyn. Gelwid y gleider hon yn Cayley Flier a braenarodd y tir i'r brodyr Wright a lwyddodd i hedfan awyren gyda phŵer ym 1903. Bu i'r brodyr Wright gydnabod eu dyled iddo'n llawn. Bu i'r Cayley Flier hedfan am ryw 900 troedfedd dros Brompton Dale cyn cwympo. Dyma'r ehediad cyntaf mewn hanes mewn awyren a oedd ag adenydd sefydlog, a theg yw dweud mai Syr George Cayley a ddyfeisiodd yr awyren. Mae'n ddiddorol na fu i Syr George hedfan yr awyren drosto ei hun (er tegwch iddo roedd yn 80 mlwydd oed ar y pryd), Yn hytrach gorchmynnodd i'w goetsmon druan (John Daley) ei hedfan drosto. Teg dweud nad oedd John Daley'n falch o gael cymryd rhan yn yr arbrawf pwysig hwn a'i fod yn fwy pryderus am y peryglon iddo ef fel peilot. Ar ôl mynd trwy'r profiad unigryw ac arswydus hwn fe ymddiswyddodd yn y fan a'r lle, gan ddweud "please, Sir George, I wish to give my notice. I was hired to drive, not to fly" - adwaith nid afresymol! Mae'n syndod gyn lleied o sylw a gafodd Syr George ym Mhrydain am ei gamp fawr - mae'n llawer mwy adnabyddus yn America. Fodd bynnag yn Llandrillo yn Rhos o leia' mae'n cael peth cydnabyddiaeth yn enw'r dafarn ac enwau'r strydoedd lleol.

Ewch yn eich blaen ar hyd y promenâd. Sylwch ar HEN FYTHYNNOD Y PYSOTWYR ar y dde i chi, a'u gerddi deniadol. Sylwch mor isel yw'r adeiladau, sy'n dangos bod y llawr wedi ei godi yn oes Fictoria er mwyn adeiladu'r Promenâd.

7. Ewch yn eich blaen ar hyd y promenâd. Y union heibio i'r gerddi blodau hyfryd, sylwch ar y chwith i chi ar y GOFGOLOFN I'R PARCH W. VENABLES WILLIAMS (7). Codwyd y gofgolofn hon trwy danysgrifiad cyhoeddus "er cydnabod y myrdd wasanaethu cyhoeddus" a wnaeth i'r ardal. Bu'n ficer plwy Llandrillo yn Rhos am 31 o flynyddoedd, a bu'n flaenllaw mewn llawer o ddatblygiadau yn Llandrillo yn Rhos ac ym Mae Colwyn. Fodd bynnag, roedd yn ffigwr dadleuol hefyd. Er enghraifft, gwrthwynebai'r ffermwyr lleol a alwai am ostwng y degwm yn ystod "rhyfeloedd y degwm" yn yr ardal. Roedd y rhain mor difrifol nes bu'n rhaid anfon milwyr at y terfysgoedd ym mhentref Mochdre. Bu i derfysgwyr losgi eglwys genhadol Venables Williams ym Mae Colwyn ac fe gafodd lythyr anhysbys yn bygwth dinistrio ei ficerdy pe na bai'n cytuno i ostwng y degwm! Ceisiai hefyd atal tref lan môr newydd Bae Colwyn rhag gwahanu oddi wrth ei blwy mawr ef, Llandrillo yn Rhos, ym 1893. Fe aeth gyn belled â deisebu'r senedd, ac fe ysgrifennodd at y Frenhines Fictoria yn ei ymdrech i atal Bae Colwyn rhag dianc o'i afael!

8. Croeswch y ffordd ac ewch yn eich blaen ar hyd yn pafin i ABERHOD (8). Mae'r adeilad braf yma ymhlith yr hynaf yn Llandrillo yn Rhos ac fe'i seiliwyd ar ffermdy o'r 17eg ganrif. Fe'i gwelir ar fap o 1763 yn eitha' pell o'r môr, sy'n dangos sut mae'r môr wedi meddiannu traethlin y bae dros y canrifoedd diwethaf.

9. Edrychwch yn yr iard sydd i'r chwith i Aberhod. Dyma THEATR BYPEDAU HARLEQUIN (9). Fe'i hagorwyd ym 1958, a dyma'r theatr bypedau bwrpasol gyntaf ym Mhrydain. Mae'n dal i lwyfannu sioeau pypedau safonol iawn. Tros y blynyddoedd mae ei pherchnogion wedi gwneud nifer o raglenni pypedau i raglenni plant y BBC.

  • Ymlaen â'r daith ...


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Adolygiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy