| 10. Ewch yn eich blaen ar hyd y pafin i fyny'r rhiw. Ar y gornel saif Gwesty Mount Stewart. Croeswch Ffordd Whitehall (sylwch ar yr hen gafn ceffylau sydd ar waelod y rhiw) ac ewch ar hyd pen uchaf Promenâd Cayley, lle gwelwch chi olygfeydd hyfryd o'r môr. Oedwch y tu allan i'r MORYN (10). Dyluniodd y pensaer blaenllaw Sidney Colwyn Foulkes y tŷ hynod hwn iddo ef ei hun. Dyluniodd nifer o adeiladau pwysig ym Mae Colwyn a Llandrillo yn Rhos, ar ffurf lled Sioraidd fel hwn gan mwyaf. Sylwch ar yr afalau pîn cerrig ar y to ar yr ochr dde i'r tŷ, sy'n thema y dychwelwn ati'n ddiweddarach yn y daith hon. Ef a ddyluniodd y ddau fyngalo cain eu golwg ar y dde hefyd. Mae golygfa hyfryd o'r bae i'w gweld yma (gan gynnwys pier Bae Colwyn i gyfeiriad y dwyrain). Tua dwy filltir i ffwrdd, y tu hwnt i'r pier, fe welwch chi bentir ar ddiwedd y Bae, a phont ar ffurf hanner cylch wrth ei odre. Dyma DRWYN PENMAEN. Digwyddodd rhywbeth o bwys hanesyddol cenedlaethol yn y fan yma. Arferai'r pentir ymestyn hyd at y môr nes iddo gael ei gloddio yn ystod blynyddoedd mwy diweddar ac roedd yn anodd iawn ei groesi. Er nad yw'r hanes yn hysbys iawn yn lleol, yma y daethpwyd a llinach brenhinoedd Plantagenet Lloegr i ben a hynny ym 1399 pan ymosodwyd ar y Brenin Richard II. Aeth Richard a byddin i ymladd yn Iwerddon. Tra'r oedd y brenin i ffwrdd, bu i Henry Bolingbroke (Henry IV yn ddiweddarach) arwain gwrthryfel yn Lloegr. Bu i fyddin Richard ymgynnull yng Nghonwy, ond bu Richard yn ddigon ffôl i oedi yn Nulyn. Cafodd ei fyddin ddigon ar aros amdano gan ymwasgaru. Erbyn i Richard lanio yng Nghonwy ychydig iawn o filwyr oedd yn weddill. Felly fe'i baricêdiodd ei hunan yng nghastell Conwy, castell y credid nad oedd modd ei feddiannu. Trwy ystryw llwyddodd Iarll Northumberland i ddenu Richard o'r castell trwy addo heddwch. Heb yn wybod i Richard, roedd Northumberland wedi cuddio ei gafalri yn Nhrwyn Penmaen. Nid oedd gan Richard ond 23 o'i dilynwyr gydag ef ac wrth i'w fintai ddilyn y llwybr anodd dros Drwyn Penmaen, ymosododd milwyr Northumberland arno. Fe'i carcharwyd yng nghastell y Fflint, lle bu iddo gyfarfod Bolingbroke yn ddiweddarach a'i orfodi i ildio'r goron. Flwyddyn yn ddiweddarach bu farw dan amgylchiadau amheus yn nyfnjwn castell Pontefract. 11. Ewch yn eich ôl o ble daethoch chi a throwch i'r chwith i Ffordd Ebberston. Oedwch wrth y gyffordd â Ffordd Kenelm ac edrychwch draw at AWEN (11). Bu'r tŷ hwn yn gartref i Alvin Langdon Coburn am 19 mlynedd olaf ei fywyd, hyd ei farw ym 1966. Roedd yn ffotograffydd arloesol ac yn flaenllaw iawn yn ei amser. Bu'n gyfaill i Lloyd George, a roddai groeso iddo yn 10 Stryd Downing. Tynnodd bortreadau ffotograffig o nifer o bobl enwog megis HG Wells, Mark Twain, George Bernard Shaw, Charles Dodson (Lewis Carroll), Sibelius a Holst. Mae ei bapurau ar gadw yn llyfrgell Bae Colwyn, gan gynnwys llyfrau sydd wedi eu llofnodi a thystebau gan lawer o'r bobl enwog yma. Disgrifiwyd ef gan Shaw, er enghraifft, fel "one of the most sensitive artist-photographers now living." 12. Trowch i'r dde i fyny Ffordd Kenelm a cherddwch at ei phen. Edrychwch ar draws Ffordd Whitehall at CLIFFE HOUSE (12) ar gornel chwith Ffordd St. Georges. Y fila Fictoriaidd yma oedd y cartref ymddeol cyntaf a'r unig gartref ymddeol i lysieuwyr yng Nghymru (fe'i hagorwyd ym 1975). Mae'n ddiddorol nodi bod Bae Colwyn yn ganolfan brysur i lysieuwyr ar ddiwedd oes Fictoria. Mae'r tŷ'n nodedig hefyd am fod Leonora Cohen wedi byw yma. Roedd hi'n swffragét flaenllaw a ddaeth i enwogrwydd cenedlaethol ym 1913 pan lwyddodd i falu casyn gemwaith Tŵr Llundain fel rhan o'r ymgyrch i ennill y bleidlais i ferched. MAE DEWIS GENNYCH CHI - MYND YN ÔL I'R DECHRAU, NEU GERDDED ESTYNIAD A. I fynd yn ôl i ddechrau'r daith gerdded trowch i'r dde i lawr Ffordd Whitehall ar hyd lan y môr a throwch i'r chwith. Pan ddewch chi at Ros Fynach unwaith yn rhagor, cerddwch hyd yr ochr chwith i'r dafarn ac ewch i gael gwell golwg ar yr hen adeiladau. Wedyn ewch yn syth yn eich blaen gan gerdded trwy'r parc bach dymunol. (Arferai fod pwll nofio awyr agored yn y fan yma). Ymlaen â'r daith ...
 |