| 13. Ewch allan o'r parc yn y gornel ar y dde, a throwch i'r chwith i fyny Ffordd yr Abaty, ac yna i'r dde i Goedlan. Oedwch y tu allan i 4 a 6 COEDLAN TRILLO (13). Mae'r adeiladau rhestredig hyn yn enghreifftiau da o'r arddull Celf a Chrefft. Roedd y symudiad hwn yn adwaith yn erbyn y gormodedd a'r goraddurno a nodweddai lawer o'r bensaernïaeth Fictoraidd ac anelai at ddychwelyd at ddyluniadau traddodiadol y crefftwr gwledig. Gwelir hyn yn arddull syml y ddau dŷ, a'r tu allan o render garw, paenau bychain y ffenestri, a'r toeau o lechi Llanberis a siapiau diddorol y simneiau. Fe'u dyluniwyd gan North a Padmore, partneriaeth bensaernïol o Lanfairfechan. Mae Cadw'n dweud mai Herbert Luck North oedd "pensaer Celf a Chrefft gorau ei oes yng Nghymru." Trowch i'r chwith i mewn i Marine Drive. Bellach rydych yng Nghapel Sant Trillo eto. Os ydych yn teimlo'n egnïol, gallwch gerdded estyniad C. 14. I GERDDED ESTYNIAD A, trowch i'r chwith i mewn i Ffordd Whitehall, a chroesi'r ffordd. Sylwch ar Y FFYNNON (14) yng ngardd ffrynt rhif 9A. Er bod y tŷ a'r wal o amgylch yn ffynnon yn fodern mae'r ffynnon ei hunan lawer yn hŷn - o bosib yn ganoloesol. 15. Croeswch y cylchdro, a cherddwch i fyny Ffordd Ebberston Road West. Saif y ffordd hon ar safle lôn a arweiniai i Dŷ Baddon ar lan y môr pan nad oedd y rhan fwyaf o Landrillo yn Rhos wedi ei adeiladu. Hanner ffordd i fyny'r ffordd trowch i'r dde ar hyd y llwybr preifat sy'n arwain at HEATON PLACE (15), os nad yw'r gât ar gau. Sylwch ar y ddwy bîn afal ar y pileri mynediad sy'n debyg i'r rhai y gwelsoch chi nhw'n flaenorol ar y tŷ ar bromenâd Cayley a ddyluniwyd gan y pensaer lleol blaenllaw, Colwyn Foulkes, iddo ef ei hun. Rhydd hyn gliw inni mai Colwyn Foulkes a ddyluniodd y stâd hyfryd hon hefyd. Fe'i codwyd ar ôl y rhyfel gyda rhoddion cyhoeddus er mwyn darparu tai ar gyfer yr henoed lleol a fu'n gwasanaethu'r gymuned ar hyd y blynyddoedd. Er bod yr adeiladau'n edrych yn debyg iawn, os edrychwch chi ar y placiau ar bob pen iddynt fe welwch chi iddynt gael eu hadeiladu dros gyfnod o amser, wrth i'r arian gael ei godi'n raddol. Wrth i chi adael y stâd sylwch fod dwy yn rhagor o'r pîn afalau'n coroni'r pileri!
16. Trowch i'r chwith i mewn i Ffordd Digby. Yna trowch i'r dde i mewn i Ffordd Tan-y-Bryn. Sylwch ar WOODSIDE GRANGE (16) gyferbyn â chi. Dyma enghraifft dda o'r tai mawr o ddiwedd oes Fictoria a arferai sefyll ar y ffordd hon y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi eu dymchwel erbyn hyn. Dynion busnes llwyddiannus o Fanceinion a Lerpwl fyddai'n eu codi gan mwyaf. Byddai 'trenau cwb' arbennig yn mynd bob dydd o Orsaf Bae Colwyn i Fanceinion a Lerpwl gan gludo'r bobl hyn i'w gwaith yn y steil a'r cyfforddusrwydd y credent eu bod yn briodol i'w cyfoeth! Er bod un pen i Ffordd Tan-y-Bryn wedi ei chau i gerbydau bu'n dramwyfa bwysig ar un adeg ac roedd yn un o'r llwybrau canoloesol a arferai fynd trwy'r ardal yn y dyddiau ymhell cyn codi Llandrillo yn Rhos. Yn wir mae'n bosib bod y trac yn fwy hynafol hyd yn oed na hynny, gan fod danau arian Rhufeinig wedi eu darganfod ar ddau safle gwahanol yn y cyffiniau, ynghyd ag Amffora Rufeinig mewn cyflwr da iawn o'r ganrif 1af. Jar storio Rufeinig fawr yw hon tua metr o daldra, gyda gwaelod pigfain a dau ddwrn a ddefnyddid i gludo gwin ac olew olewydd. Mae amffora o'r fath yn beth eitha' prin, ac ychydig iawn ohonynt sydd wedi eu darganfod yn gyfan ym Mhrydain. Fe'i darganfuwyd yn ddwfn yn y ddaear ym 1960 pan godwyd byngalo newydd. Ni wyddai ei berchnogion newydd ei bod mor hynafol a bu yn eu gardd nhw am 25 o flynyddoedd! Mae'n syndod na chafodd ei difrodi yn y cyfnod hwn cyn i rywun sylweddoli beth ydoedd. Bellach mae'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a phan ysgrifennwyd hyn o lith roedd yn cael ei harddangos yn llyfrgell Bae Colwyn ac mae'n wir yn werth ei gweld. Gyferbyn â Ffordd Rhos ceir trac â'r arwydd Gwarchodfa Natur Leol Bryn Euryn. Mae hwn yn arwain at ESTYNIAD B. Llwybr cylchog gydag arwyddion yw hwn ("Llwybr y Copa ") tua milltir o hyd. Mae'r Cyngor wedi llunio taflen ragorol am y daith gerdded hon (a elwir yn "Warchodfa Natur Leol Bryn Euryn"), ac mae hi ar gael gan y Ganolfan Groeso leol. Mae'r llwybr yn esgyn ryw 100 metr hyd at gopa'r bryn ac mae rhai dringfeydd a disgynfeydd serth iawn, a all fod yn llithrig iawn ar ôl iddi fwrw glaw. Er hynny mae'n werth yr ymdrech, ac fe aiff â'r tro â chi heibio olion plasty canoloesol Llys Euryn, trwy goetiroedd a glaswelltir, at y fryngaer o'r chweched ganrif ar y copa a golygfeydd anhygoel gan ddod â chi'n ôl i'r man cychwyn. Mae rhai meinciau ar y llwybr i chi gael gorffwys, os bydd angen! Ymlaen â'r daith ...
 |