| 17. Os ydych am ddilyn yr estyniad hwn, cerddwch ar hyd y rac am rwy 25 llath, yna trowch i'r dde gan ddilyn arwyddbost Llwybr y Copa i fyny'r stepiau. Dilynwch y llwybr nes dewch chi at OLION PLASTY LLYS EURYN (17). Dyma safle'r plasty caerog a godwyd gan Ednyfed Fychan yn y drydedd ganrif ar ddeg, sydd bellach yn adfeilion. Mae bwrdd arddangos hwylus gan Gyngor Conwy'n nodi hanes y safle. Yn ei oes roedd Ednyfed yn un o'r dynion pwysicaf yng Nghymru, ac ef oedd prif weinidog a chynghorydd Llywelyn Fawr. Un o'i ddisgynyddion oedd Owain Tudur, taid Harri VII, sy'n cysylltu Llandrillo yn Rhos unwaith yn rhagor â hanes Prydain. Mae'n debyg y llosgwyd yr adeilad gwreiddiol gan Owain Glyndŵr ym 1409, ond fe'i hailgodwyd yn ddiweddarach. Er yr anffawd yma mae'n debyg iddo ffynnu eto ar ôl ei ail godi ac fe ddaeth yn eiddo i'r teulu Conwy. Mae bardd Cymraeg o'r 15fed ganrif yn disgrifio gogledd Cymru fel "gwlad o gwrw, medd a gwin," gan ddweud mai tŷ Huw Conwy yw'r lle y dylai'r bardd sychedig droi ato ac felly mae'n amlwg ei fod yn enwog am ei letygarwch yn yr oes honno. Mae'n anodd dychmygu'r gwleddoedd canoloesol hyn o edrych ar yr adfeilion sydd yno heddiw! 18. Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr heibio i'r adfeilion, a sylwch ar yr hen chwarel islaw i chi ar y chwith. Pan ddewch chi at dŷ trowch i'r dde a dilynwch "Lwybr y Copa." Dilynwch y llwybr wrth iddo ymdroelli trwy goetiroedd braf ac fe ddewch chi i gopa'r bryn, BRYN EURYN (18). Mae hwn wedi ei farcio â thrigbwynt concrid sy'n rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol a godwyd gan yr Arolwg Ordnans ar gyfer llunio mapiau o'r Deyrnas Unedig yn y dyddiau cyn bod cyfrifiaduron, o ystyried mor fach yw'r bryn (131 metr yn uwch na lefel y môr), mae'r golygfeydd yn rhagorol. Edrychwch allan dros y môr i weld holl rychwant Bae Colwyn. Yna edrychwch dros dref Bae Colwyn i weld coetir hynafol Coed Pwllycrochan. Yna trowch gyda'r cloc yn araf i weld panorama Eryri, mynydd Conwy, Môn ac Ynys Seiriol. Y Gogarth Fawr a'r Gogarth Fach. Cewch drem aderyn ar Landrillo yn Rhos a'i morglawdd hynod a'r harbwr bychan islaw i chi. Mae gwaith cloddio wedi profi y bu'r bryn hwn yn safle bryngaer Frythonaidd-Rufeinig. (Gallwch weld olion yr hen waliau o hyd os edrychwch yn ofalus). Codwyd hon yn y 5ed neu'r 6ed ganrif gan un o'r "brenhinoedd" lleol a gipiodd rym ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid - Cynlas Goch oedd ei enw mae'n debyg. Nid oedd Cynlas yn gymeriad hollol ddilychwin - gadawodd ei wraig er mwyn priodi ei chwaer, y bu'n rhaid iddo ei llusgo o'r lleiandy yr oedd hi wedi ymneilltuo iddo. Mae'r mynach a'r hanesydd Gildas, a ysgrifennai yn y 6ed ganrif, yn disgrifio Cynlas fel "Arth, lleiddiad rhudd a cherbydwr Din Arth", Mae'r disgrifiad hwn wedi peri i rai gysylltu'r gaer hon i'r Brenin Arthur, er nad yw'r disgrifiad o Arthur yn gydnaws â'r ddelwedd Arthuraidd! Er hynny, yn y canol oesoedd enw'r plwy canoloesol lle saif y gaer oedd "Dineirth", sy'n rhoi rhyw gefnogaeth dila i'r traddodiad Arthuraidd. Eto mae bwrdd arddangos hwylus iawn yma sy'n cynnig rhagor o wybodaeth ac sy'n dangos darlun o'r gaer fel yr oedd hi. Ewch yn ôl am ryw 30 llath at y graig sydd gerllaw ac edrychwch i lawr. Mae'r cwm cul oddi tanoch chi'n llwybr cyswllt naturiol o Loegr i Gonwy a thu hwnt. O'r fan hon fe welwch fod y rheilffordd a'r A55 yn rhedeg ar ei hyd. Fodd bynnag bu'n llwybr hwylus i fyddinoedd estron hefyd. Rhydd hyn ryw bwysigrwydd strategol i'r bryn a'i gwnaeth yn safle naturiol i godi caer. Bu llengoedd Rhufain yn martsio'r ffordd yma yn AD 61 ar eu ffordd i ddarostwng y derwyddon ym Môn.
Ymosodwyd arnynt yn y cwm ac fe gafodd eu dirprwy, Sempronius, ei ladd yn y frwydr. Hyd y dydd heddiw gelwir y cwm yn Nant Sempyr, enw sy'n dal i'n hatgoffa ni am ei ladd yma. Bu'r bryn yn safle milwrol eto ym 1940 pan gododd yr RAF un o'u gorsafoedd radar cynharaf yma rhag awyrennau Almaenig ar eu ffordd i ollwng bomiau ar Lerpwl, gan ddangos pwysigrwydd strategol naturiol y bryn unwaith yn rhagor. Mae olion llawr concrid yr adeilad o'r Ail Ryfel Byd i'w gweld o hyd ar y copa. Ewch yn ôl i'r trigbwynt. Cerddwch yn syth yn eich blaen at farciwr y llwybr a dilynwch y llwybr cylchog yn ôl i'r dechrau gan ddilyn yr arwyddion. Wrth i chi ddisgyn hyd ochr y bryn sylwch ar eglwys ganoloesol y plwy mewn safle amlwg oddi tanoch. Sylwch hefyd ar y cwrs golff isod a'r nant sy'n rhedeg trwyddo oddi tanoch. Wrth y tŷ ewch drwy'r gât. Yma mae dewis gennych chi. Mae'r llwybr sy'n fforchio i'r dde'n haws ond ychydig yn hirach. Mae'r un i'r chwith yn gyflymach, ac yn mynd i lawr rhai grisiau.
Ymlaen â'r daith ...
 |