| 23. Oedwch y tu allan i rifau 60-64. Codwyd y BYTHYNNOD CERRIG diddorol yma (23) ym 1857 i wasanaethu'r chwarel a welsom ym Mryn Euryn. Y llythrennau sydd wedi eu cerfio ar du blaen y bythynnod yw llythrennau blaen enw Whitehall Dodd a oedd yn berchen ar yr holl stad o amgylch ar y pryd ac y gwelir ei enw yn enwau'r ffyrdd lleol. Arferai'r rheilffordd gyntaf yn Llandrillo yn Rhos redeg y tu cefn i'r tai hyn - trac cyntefig a cheffylau'n tynnu'r wagenni i gludo cerrig o'r chwarel ym Mryn Euryn i gei o'r 19eg ganrif ar lan y môr. Mae olion arglawdd yr hen reilffordd i'w weld o hyd yng ngerddi cefn rhai o'r tai ar Ffordd Rhos, ac mae pobl leol wedi darganfod nifer o hen bedolau ar y llwybr.
Ewch yn eich blaen at rifau 56 a 58. Mae'r bythynnod cerrig hyn ychydig bach yn fwy ymarferol eu naws ac mae'r rhain hefyd yn dyddio o'r amser cyn codi'r rhan fwyaf o Landrillo yn Rhos. Bythynnod clwm oedd y rhain yn wreiddiol ar gyfer gweision fferm yn Aberhod yn y dyddiau pan oedd yn fferm. Roedd yr ardal o gwmpas yn gaeau agored. Gwelir hyn yn nhelerau'r brydles a roddwyd i'r tenantiaid. Yn dechnegol cant gadw dau fochyn o hyd a physgota yn y môr, a oedd yn hawliau hwylus iawn i drigolion y 19eg ganrif ond nid ydynt mor werthfawr heddiw! Trowch i'r chwith i mewn i Ffordd Elwy. Lle mae'r ffordd yn gwyro ychydig i'r chwith, croeswch y ffordd ac ewch i mewn i'r parc wrth ymyl tŷ to gwastad (a godwyd yn yr arddull fodernaidd). Trwy'r coed ar eich chwith fe welwch chi GLWB CRICED BAE COLWYN. Fe'i hagorwyd ym 1924, ac mae'n dal i chwarae rhan bwysig ym mywyd y gymuned leol. Mae'n dal i gynnal gemau pwysig megis y gêm sirol reolaidd rhwng Morgannwg a Swydd Gaerhirfryn. Croesawyd tîm India'r Gorllewin yma ym 1984 pan oeddynt ar daith. Dilynwch y llwybr i lawr heibio i'r cyrtiau tenis hyd at y ffordd. Os edrychwch o'ch cwmpas fe synhwyrwch eich bod chi mewn dyffryn bach. Dyma wely Afon Ganol (sydd bellach wedi ei gwyro). Arferai fynd i'r môr yn Llandrillo yn Rhos, ac mae tystiolaeth y bu doc bychan a iard gychod wrth ei cheg ganrifoedd yn ôl. Trowch i'r chwith i mewn i Goedlan Penrhyn. Arferai'r hen lwybr tramiau i Landudno fynd ar hyd y ffordd hon. Wrth i chi fynd heibio i'r fflatiau a elwir yn Barc Penrhyn, edrychwch ar y glaswellt ger y pafin ac fe welwch chi sylfaen fetel un o'r hen bileri a ddefnyddid i gynnal gwifrau'r tramiau yn yr awyr - a dyma'r cwbl sy'n weddill o'r hen lwybr tramiau bellach.
Dilynwch y tro cyntaf i'r chwith i mewn i Cilgant Colwyn. Ewch yn syth yn eich blaen i mewn i Goedlan Trillo. Sylwch ar rifau 4 a 6 ar y dde i chi (13) - gweler y nodiadau yn y tudalenau blaenorol.
Yma cewch olygfeydd hyfryd o'r Gogarth Fach. Fe sylwch chi fod un pen i'r Gogarth Fach wedi ei fwyngloddio am galchfaen, peth ohono i adeiladu Llandrillo yn Rhos. Mynnodd Stadau Mostyn i'r mwyngloddio gael ei wneud ar ochr Llandrillo yn Rhos i'r Gogarth Fach. Gosodasant yr amod hwn er mwyn sicrhau na fyddai dim amharu ar yr olygfa o'r Gogarth Fach o gyfeiriad Llandudno. Teg yw casglu nad oeddynt yn poeni rhyw lawer am yr olygfa o gyfeiriad Llandrillo yn Rhos. Ymlaen â'r daith ...
 |