9. Dilynwch lwybr cyhoeddus i'r chwith drwy blanhigfa Coed Môr. Ar ôl ychydig lathenni gellir crwydro i'r dde ble gellir gweld Coedardd (Arboretum) sy'n cynnwys nifer o goed o wahanol rannau o'r byd. Ail ymunwch â'r llwybr a'i ddilyn i lawr i gyfeiriad y Fenai.
10. Ar waelod y llwybr, o edrych i'r chwith gellir gweld Pont y Borth. Mae'r bont yn 1500 troedfedd o hyd; rhan ohoni'n cael ei chynnal gan y tri pier bwaog ar ochr y tir mawr a phedwar pier ar ochr Môn. Mae rhychwant y darn sydd ynghrog rhwng y ddau 'byramid', un ohonynt yn gorffwys ar Ynys y Moch, yn 580 troedfedd. Cwblhawyd y bont ac agorwyd hi i'r cyhoedd ar 30ain o Ionawr 1826. Croesodd coets gyntaf y post am 1.30 y bore gyda'r peiriannydd preswyl William Provis yn teithio arni.
Uchelgaer uwch y weilgi - gyr y byd
Ei gerbydau drosti,
Chwithau, holl longau y lli,
Ewch o dan ei chadwyni.
(Dewi Wyn o Eifion).
Yn syth o'ch blaen fe welwch Ynys Gorad Goch. Ar ochr ogleddol yr ynys fe welwch y trap pysgod anarferol (y gored) a grewyd drwy addasu rhai o nodweddion yr ynys a gwneud defnydd o'r llanw.
11. Cerddwch i'r dde ar hyd y llwybr i gyfeiriad Pont Llanfair (Britannia). Cyn cyrraedd y bont gellir gweld hen sylfaeni ac adfeilion y Barics a ddefnyddiwyd gan y gweithwyr tra'n adeiladu'r bont. Cynlluniwyd y bont gan Robert Stephenson ac yn dilyn 5 mlynedd o waith adeiladu ar gost o £601,865 croesodd y trên cvntaf ym mis Mawrth 1850. Achoswyd difrod helaeth i'r bont yn dilyn tân difrifol yn 1970. Cryfhawyd ac addaswyd y bont i dderbyn ceir yn ogystal â threnau. Agorwyd y bont i geir ym 1980. Un o weithiau mwyaf cyfarwydd John Evans (Y Bardd Cocos) yw'r un sy'n disgrifio'r llewod carreg o boptu Pont Britannia:
Pedwar llew tew
Heb ddim blew,
Dau'r ochor yma,
A dau'r ochor drew.
12. Pan gyrhaeddwch y bont, dilynwch y ffordd sy'n arwain i'r dde i fyny'r allt. Cyn cyrraedd gwesty Carreg Brân gellir gweld cerfluniau'r llewod, a anfarwolwyd gan y Bardd Cocos, uwchlaw'r llwybr.
13. Gyferbyn â'r mynediad i'r gwesty, trowch i'r chwith i lawr yr allt i gyfeiriad Eglwys Santes Fair. Un o ganlyniadau trist
llwyddiant y pentref tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd chwalu'r hen eglwys ganol oesol a chodi'r adeilad presennol gerllaw yn ei lle. Roedd yr hen eglwys yn hynod o fach, a phenderfynodd yr offeiriad ar y pryd, Y Parch Thomas Jones Williams, M.A., mab asiant y Marcwis cyntaf, fod angen dathlu'r oes newydd a ddaeth i'r pentref gyda dyfodiad y rheilffordd gydag adeilad mwy. Cost yr adeiladu oedd £950 a chysegrwyd yr eglwys newydd gan Esgob Bangor ym Medi 1853. Ymgasglodd clerigwyr o bob rhan o'r esgobaeth, a chofnododd y North Wales Chronicle iddynt gael stablu eu meirch ym muarth fferm Pant Lodge.
Ym mynwent yr eglwys mae cofgolofn i'r dynion a laddwyd wrth adeiladu Pont Britannia oedd â'i chysgod mawr dros yr hen eglwys. Er ei bod yn amlwg yn rhy fach ar gyfer anghenion y plwyf, ymddengys yn drist fod yn rhaid chwalu'r hen adeilad gwyngalchog mor ddiseremoni.
Parhau gyda'r daith