Dadorchuddiwyd Cofgolofn Nelson gan yr un a'i lluniodd, sef yr Arglwydd Lyngesydd Clarence Paget, perchennog Plas Llanfair (Ysgol Indefatigable) yn 1873 i roi teyrnged i'r llynges. Oddi yma mae'n bosib cael golygfa i gyfeiriad Pwll Fanogl - yn ystod y ganrif ddiwethaf, roedd yn lle hynod o brysur, yn cynhyrchu, prynu a gwerthu haidd a llechi, llwytho a dadlwytho cychod o bob math. Mae cofnod hefyd fod o leiaf ddwy long bren wedi eu hadeiladu yno, a thrydedd wedi ei gorffen yn y pentref ei hun. Roedd haidd yn cael ei gludo yno er mwyn ei falu yn y felin, ac yna ei hwylio allan. Roedd cig moch a wyau yn cyrraedd a gadael oddi yno, ac ar un adeg roedd ffatri gwneud marjarîn. I ŵr o'r enw Cyrnol Cotton mae'r diolch am lwyddiant Pwll Fanogl. Dyn busnes go iawn oedd Cyrnol Cotton, gyda'i fys ym mhob math o fusnesau. Ei brif fusnes oedd dod â chynnyrch lleol i gyd i'r un lle, er mwyn wedyn ei ail ddosbarthu. Roedd yn prynu bob math o ddeunydd, moresg o Niwbwrch er enghraifft er mwyn ei yrru i'r tir mawr i wneud matiau, yn ogystal â phob math o gynnyrch amaethyddol. Ffurfiodd fudiad cydweithredol er mwyn prynu cynnyrch. Roedd mynd mawr ar y lle, ond gyda'i farwolaeth yn y 1920au daeth llwyddiant Pwll Fanogl i ben. Am lawer blwyddyn y gwaith mwyaf poblogaidd i fechgyn rhwng 16 a 18 oed oedd y ffactri cynhyrchu llechi ar gyfer ysgolion ym Mhwll Fanogl. Roedd y llechi yn gadael y Felinheli dros y Fenai er mwyn cael eu gorffen a'u fframio, ac yna yn cael eu danfon yn ôl er mwyn cael eu dosbarthu ar hyd a lled Ynys Môn a Gogledd Cymru. 15. Dychwelwch i gyfeiriad Carreg Brân a dilyn y ffordd i fyny'r allt cyn croesi ffordd yr A5 a cherdded i'r chwith yn ôl i gyfeiriad y pentre i'r man cychwyn. 16. Gellir cerdded ymlaen o'r maes parcio i ymweld â'r Orsaf Rheilffordd - cwblhawyd y rheilffordd yn 1848, ddwy flynedd cyn cwblhau Pont Britannia. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd gorsaf Llanfairpwll yn derbyn teithwyr, a ddeuai ar y goets o orsaf Bangor, i ail-ymuno â'r trên i fynd ymlaen â'u taith i Gaergybi. Dychwelwch i gyfeiriad y maes parcio gan basio heibio Tŷ Coch sef cartref Syr John Morris Jones a'r Cloc Coffa a godwyd i gofio am feibion yr ardal a gollwyd yn y ddau ryfel byd.
Yn ôl i ddechrau'r daith Oriel luniau'r daith gerdded
 |