2. Ar ôl pasio'r ysgol fe welir adeilad sinc ar ochr isaf y ffordd - yn Llanfair Pwll y ffurfiwyd cangen gyntaf Sefydliad y
Merched ym Mhrydain, ym Medi 1915, wedi i'r mudiad gael ei ddechrau yng Nghanada ym 1897. 3. Y drws nesaf, ar gyffordd Ffordd Brynsiencyn fe welwch Y Tollty - arferai'r hen ffordd i Gaergybi osgoi'r pentre ond yn dilyn agor Pont y Borth adeiladwyd tollffordd newydd drwy bentre Llanfairpwll. Ar dalcen yr adeilad ceir manylion y tollau a arferid eu codi ar deithwyr a masnachwyr. 4. Dilynwch y ffordd i fyny'r allt tua chyfeiriad y Pentre Uchaf. Cymerwch gyfle i eistedd ar y fainc tua phen yr allt i fwynhau'r olygfa dros y Fenai dros Bwllfanogl tua Phlas Newydd a'r Felinheli. 5. I'r dde uwchlaw'r coed fe welwch Dŵr Marcwis a gwblhawyd yn 1817 i gofio am Henry William Paget, Plas Newydd arweinydd y marchoglu ar faes brwydr Waterloo yn 1815 - ar 24 Tachwedd 1860 gosodwyd cerflun efydd o Henry William Paget, Ardalydd Cyntaf Ynys Môn ar ben y tŵr. Cynlluniwyd y golofn gan Thomas Harrison, brodor o Gaer, ac fe'i hadeiladwyd o farmor llwyd a fewnforiwyd o Foelfre i Bwll Fanogl. Cariwch ymlaen ar hyd y ffordd i Bentre Uchaf Llanfair Pwllgwyngyll. 6. Croeswch y ffordd sy'n croesi'r A55 - ar yr ochr bellaf i'r ffordd gellir gweld Cromlech Tŷ Mawr yna dilynwch y llwybr heibio Sant Tysilio (Pant Lodge gynt) ar hyd llwybr Refail Goch. Cymerwch funud i orffwys ar y fainc i fwynhau'r olygfa odidog o fynyddoedd Eryri. Mae'n bosib gweld o Ben y Gogarth yn y dwyrain i fryniau Pen Llŷn i'r gorllewin. 7. Ymhen ychydig lathenni fe welwch lwybr cyhoeddus yn arwain i'r dde tros gamfa. Dilynwch y llwybr ar draws y caeau
gan fwynhau'r olygfa o'r Fenai o'ch blaen. Mae tystiolaeth fod y caeau yma wedi eu defnyddio ar gyfer Ffermio Teras yn ystod cyfnod neolithig (Oes y Cerrig Newydd) tua 10,000 C C - os sylwch, fe welir olion o'r terasau ar y tirwedd. Parhau gyda'r daith
 |